Canolfan Hamdden Rhisga

Tel  01633 600940
Email  lcrisca@caerffili.gov.uk
Location  Canolfan Hamdden Rhisga, Pontymason Lane, Risca, NP11 6GH

Pethau i'w gwneud yn Canolfan Hamdden Rhisga

Ein cyfleusterau

  • Pwll nofio - pwll nofio 4-lôn 25m. Mae’r pwll yn cynnwys man bas wedi’i ddylunio i oedolion sy’n dysgu, ond sydd hefyd yn ddelfrydol i blant ifanc a phlant sy’n dysgu. Mae amrywiaeth fawr o weithgareddau ar gael yn y pwll gan gynnwys sesiynau rhieni a phlant bach, cyrsiau nofio ac aerobeg dŵr.
  • Pwll dysgwyr - 5m o hyd ac â dyfnder sy’n amrywio o 0.4 i 0.8m. Y lle perffaith i blant iau na 5 oed ddysgu nofio neu ar gyfer parti pen-blwydd eich plentyn.
  • Ystafell newid penodol i bobl anabl – Bwrdd newid y gellir addasu ei uchder a chawod hygyrch i bobl â phroblemau symudedd cymhleth.
  • Cae Pob Tywydd trydedd genhedlaeth – Dau gau 3G â llifoleuadau. Mae’r cae chwaraeon 3G yn union fel arwyneb glaswellt chwaraeon naturiol. Mae ein caeau pêl-droed 3G yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw gynghreiriau 5 bob ochr neu bêl-droed 7 bob ochr iau.
  • Ystafell ffitrwydd - Offer helaeth mewn ystafell ffitrwydd bwrpasol o’r radd flaenaf wedi’i haerdymheru sy’n gartref i dros hanner cant o fannau sydd â defnydd lluosog; mae yna hefyd ardal pwysau rhydd â chyfarpar da a pharth ymarfer swyddogaethol.
  • Ystafell iechyd - Ar ôl eich sesiwn ymarfer corff, beth am ymlacio yn ein hystafell iechyd Dull Byw sydd â sawna ac ystafell stêm.
  • Cyrtiau sboncen  – 2 gwrt sboncen o safon broffesiynol, yr ystyrir yn lleol mai nhw yw’r gorau yn yr ardal. Mae gan y ddau lawr pren sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd er mwyn sicrhau safonau uchel. Yma ceir cynghreiriau sboncen anffurfiol (sy’n agored i bawb), a Chlwb Sboncen Rhisga sy’n chwarae yn y cynghreiriau lleol. Ar gael i’w llogi am gyfnodau o 45 munud.
  • Neuadd chwaraeon - Man amlbwrpas dan do gyda llawr chwaraeon proffesiynol. Mae llawer o ddefnyddiau i’r neuadd, gan gynnwys pêl-droed pump bob ochr, tennis byr, badminton a dosbarthiadau ffitrwydd. Ar gyfer badminton, gellir rhannu’r neuadd yn chwe chwrt sydd ar gael i’w llogi. Mae’r neuadd chwaraeon hefyd ar gael ar gyfer digwyddiadau arbennig fel cyngherddau, dawnsfeydd, arddangosfeydd, ciniawau a chynadleddau. Mae wedi’i thrwyddedu i ddal hyd at 900 o bobl.
  • Stiwdio ddawns - Campfa â llawr pren cwbl grog a ddefnyddir ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gymnasteg, dosbarthiadau ffitrwydd, dosbarthiadau ymlacio a grwpiau hyfforddiant cylchol. Yr ystafell hon yw’r dewis cyntaf hefyd ar gyfer amrywiaeth o grwpiau a chlybiau crefftau ymladd sy’n ei chael yn ddelfrydol at eu hanghenion. Ceir gwahanol gyfarpar yn yr ystafell a gellir ei threfnu i gynnwys matiau glanio a llawr sylweddol. Mae hefyd ar gael i’w llogi’n breifat.
  • Ystafell Machen – Yn addas fel lleoliad ar gyfer cyfarfodydd, seminarau, diwrnodau hyfforddiant a chyflwyniadau. Gellir hefyd ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd, ac mae’n addas i bartis plant.
  • Cyfleusterau Newid – Ystafelloedd newid i ddynion ac i fenywod ar wahân.  Ystafell newid ddynodedig i bobl anabl sy’n cynnwys bwrdd newid a hoist. Cyfleusterau newid yr Ystafell Iechyd: ciwbiclau newid unigol.  Cyfleusterau newid y Llawr Cyntaf: ciwbiclau newid unigol.
  • Parcio ceir am ddim– Mae gan y ganolfan ddau faes parcio (am ddim i ddefnyddwyr y ganolfan) a chyfleuster parcio ceir ‘gorlif’ er hwylustod i chi, gan gynnwys mannau parcio penodol i bobl anabl.

Sut i ddod o hyd i Canolfan Hamdden Rhisga