Canolfan Hamdden Trecelyn

Tel  01495 248100
Email  lcnewb@caerffili.gov.uk
Location  Canolfan Hamdden Trecelyn, Bridge Street, Trecelyn NP11 5FE

Pethau i'w gwneud yn Canolfan Hamdden Trecelyn

Ein cyfleusterau

  • Pwll nofio - pwll nofio 6-lôn 25m. Mae amrywiaeth fawr o weithgareddau ar gael yn y pwll gan gynnwys sesiynau rhieni a phlant bach, cyrsiau nofio ac aerobeg dŵr.
  • Ystafell iechyd - Ar ôl eich sesiwn ymarfer corff, beth am ymlacio yn ein hystafell iechyd Dull Byw sydd â sawna ac ystafell stêm.
  • Neuadd chwaraeon - Neuadd chwaraeon amlbwrpas y gellir ei defnyddio ar gyfer badminton, pêl-fasged, pêl-droed pump bob ochr, pêl-rwyd, pêl foli ac amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon eraill. Mae’r neuadd chwaraeon hefyd ar gael ar gyfer digwyddiadau arbennig fel cyngherddau, dawnsfeydd, arddangosfeydd, ciniawau a chynadleddau. Mae wedi’i thrwyddedu i ddal hyd at 900 o bobl.
  • Cae pob tywydd – Cae maint llawn sy’n ddelfrydol ar gyfer pêl-droed, rygbi, hoci a digwyddiadau arbennig.
  • Cyfleusterau Newid – Ystafelloedd newid i ddynion ac i fenywod ar wahân.  Ystafell newid ddynodedig i bobl anabl sy’n cynnwys bwrdd newid a hoist.
  • Parcio ceir am ddim – gan gynnwys mannau parcio penodol i bobl anabl.

 

Mae gan y ganolfan hamdden hon ddefnydd addysgol o’r cyfleusterau yn ystod tymhorau ysgol ac oriau ysgol. Gall hyn effeithio ar argaeledd rhai ardaloedd a chyfleusterau yn y ganolfan yn ystod yr amseroedd hyn.


Sut i ddod o hyd i Canolfan Hamdden Trecelyn