Fe wnaeth 3,700 o redwyr gymryd rhan yn y digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili ddydd Sul, wrth iddo barhau i fynd o nerth i nerth bob blwyddyn.
Fe wnaeth 2,500 o redwyr gymryd ran yn y ras 10 cilomedr, ochr yn ochr â 1,200 o gyfranogwyr yn y ras 2 gilomedr, gan greu awyrgylch gwych ledled y dref.
Aaron Ramsey, cyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru o Gaerffili, wnaeth gychwyn y digwyddiad, gan redeg y ras 2 gilomedr ochr yn ochr â’i blant a chario Baton y Brenin ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, 2026.
Yn y ras 10 cilomedr, fe wnaeth Dewi Griffiths ennill y wobr gyntaf yng nghategori y dynion, a Lauren Kennard yng nghategori y menywod. Yn y ras 2 gilomedr, Rory Collins ac Alesha Santos oedd yr enillwyr yn eu categorïau priodol.
Roedd miloedd o wylwyr wrth ymyl y llwybr i gefnogi rhedwyr o bob gallu – o’r rhai a oedd am dorri record flaenorol i deuluoedd yn mwynhau’r digwyddiad 2 gilomedr.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd,
“Mae 10 Cilomedr Caerffili yn parhau i dyfu bob blwyddyn, ac roedd yn wych gweld 3,700 o redwyr yn cymryd rhan – y nifer uchaf erioed. Roedd yr awyrgylch yn y dref yn anhygoel, gyda chynifer o bobl yn dod at ei gilydd i gefnogi’r digwyddiad.”
Mae’r digwyddiad yn ategu Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol (2019–2029) y Cyngor, sy’n anelu at gynyddu lefelau cymryd rhan, gwella iechyd a lles, a chreu rhagor o gyfleoedd i drigolion fod yn egnïol.
Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus arall, mae cynllunio eisoes yn digwydd ar gyfer 2027, a fydd yn digwydd ddydd Sul 9 Mai 2027.
Mae’r broses gofrestru bellach ar agor ac rydyn ni wedi rhewi prisiau tan ddiwedd mis Medi.
I gadw eich lle, ewch i: www.caerphilly10k.co.uk