Ffitrwydd

Beth bynnag fo’ch nodau neu’ch lefel ffitrwydd ar hyn o bryd, mae gan ein hystafelloedd ffitrwydd amrywiaeth gynhwysfawr o offer ffitrwydd sydd wedi’u cynllunio’n benodol i fodloni’ch holl ofynion ffitrwydd ac ymarfer corff.

Mae ein cyfleusterau’n cynnwys offer cardiofasgwlaidd – fel melinau traed, peiriannau croesymarfer, beiciau, peiriannau stepio a pheiriannau rhwyfo – ac amrywiaeth o beiriannau gwrthiant ar gyfer pob grŵp cyhyrau.

Bydd cyngor arbenigol gan ein staff cymwys yn sicrhau eich bod chi’n ymarfer corff yn ddiogel ac yn effeithiol bob amser. Hefyd, rydyn ni’n cynnig asesiadau rheolaidd i fonitro’ch cynnydd am ddim.

Mae angen i bawb sy’n defnyddio Ystafelloedd Ffitrwydd Dull Byw Hamdden drefnu sesiwn gyflwyno AM DDIM gydag un o’n hyfforddwyr ffitrwydd cwbl gymwys. Bydd ein hyfforddwyr ffitrwydd yn dangos i chi sut i ddefnyddio’r offer ffitrwydd yn ddiogel a hefyd mae modd iddyn nhw baratoi rhaglen hyfforddi ffitrwydd sy’n gweddu’n berffaith i’ch anghenion, os hoffech chi hynny. Mae sesiynau cyflwyno fel arfer yn para tua awr. Noder: bydd angen llenwi holiadur meddygol cyn eich sesiwn gyflwyno. Efallai y bydd angen sesiwn ymgynghori cyn ymarfer corff gan ddibynnu ar ganlyniad yr holiadur meddygol. Mae modd trefnu sesiynau cyflwyno wrth y dderbynfa.

Mae modd defnyddio’r cyfleusterau hyn trwy ddewis talu wrth fynd neu danysgrifio i un o’n pecynnau aelodaeth misol ‘heb gontract’ sy’n cynnig gwerth gwych am arian.

Canolfannau Hamdden gydag Ystafelloedd Ffitrwydd:

Canolfan Hamdden Caerffili

Canolfan Hamdden Cefn Fforest

Canolfan Hamdden Cenydd Sant

Canolfan Hamdden Heolddu

Canolfan Hamdden Pontllan-fraith

Canolfan Hamdden Rhisga

Canolfan Hamdden Sue Noake

Canolfan Hamdden Tredegar Newydd