Aelodaeth Gorfforaethol
Mae gweithwyr iach yn gwella iechyd a diwylliant cwmni drwy gael mwy o gynhyrchiant, egni, ymgysylltiad a morâl. Mae ffitrwydd personol yn arwain at well hunanhyder, arweinyddiaeth a pherfformiad swydd. Mae gweithwyr eisiau bod yn iach ac yn hapus, felly, beth am ddarganfod sut rydych chi’n gallu eu cefnogi…
Mae cynlluniau aelodaeth gorfforaethol ostyngol ar gael i gwmnïau lleol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae ein gwasanaethau ni’n cynnwys chwe phwll nofio, ystafelloedd ffitrwydd, chwaraeon raced a gwahanol o ddosbarthiadau ymarfer corff, ac maen nhw’n ar gael yn neg safle ledled y Fwrdeistref Sirol.
Mae gweithwyr yn gallu defnyddio’r cyfleusterau ar bob safle a manteisio ar y gwahanol fathau o aelodaeth sydd ar gael. Mae gennym ni ddau becyn aelodaeth gorfforaethol i ddewis ohonyn nhw:
- Dull Byw Actif Nofio £16.80 – Mynediad at nofio cyhoeddus a’r holl weithgareddau dŵr.
- Dull Byw Actif Plws £23.99 – Mynediad at nofio cyhoeddus, ystafelloedd ffitrwydd, dosbarthiadau ymarfer corff, ystafelloedd iechyd a chwaraeon raced.
Dim ond pum cyflogai ar aelodaeth debyd uniongyrchol sydd eu hangen arnoch chi i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun aelodaeth gorfforaethol. Hefyd, mae’r buddion hyn yn ymestyn i aelodau’r teulu a phartneriaid gan ein bod ni’n cynnig aelodaeth gorfforaethol i gyplau.
Bydden ni wrth ein bodd yn ymweld â’ch cwmni chi i gynnig cyngor i weithwyr ac i hyrwyddo ein gwasanaethau ni. Os hoffech chi drefnu ymweliad neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, ffoniwch y Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 863072, e-bostio Hamdden@caerffili.gov.uk neu lenwi’r ffurflen isod. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych chi.