Cwestiynau Cyffredin

Sut mae cael Cerdyn Hamdden?

Galwch heibio i'ch canolfan hamdden leol a bydd ein timau cyfeillgar yn creu cyfrif Cerdyn Hamdden i chi. Dyma gerdyn sy'n darparu mynediad cyflym a hawdd i gyfleusterau yn eich canolfan hamdden leol.

Angen help i fewngofnodi i’ch archebion ar-lein/yr Ap?

Eich cyfeiriad e-bost yw eich Enw Mewngofnodi, ac os nad oes gennych chi gyfeiriad e-bost wedi’i gofrestru, rhowch wybod i’ch canolfan hamdden leol neu gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01443 863072 neu e-bostio leisure@caerphilly.gov.uk i’w gynnwys ar eich cofnod.

Gallwch osod eich cyfrinair eich hun drwy glicio ar y ddolen ‘Wedi anghofio'ch Cyfrinair?’ Wedi anghofio'ch Cyfrinair

Beth yw'r pris am sesiwn nofio / sesiwn badminton / sesiwn sboncen / dosbarth ymarfer corff mewn grŵp?

Sesiwn Nofio - £3.80 (Oedolyn) / £2.85 (Consessiwn)
Sesiwn Badminton - £6.95 (Oedolyn) / £5.25 (Consessiwn)
Sesiwn Sboncen - £6.95 (Oedolyn) / £5.25 (Consessiwn)
Dosbarth Ymarfer corff mewn grŵp - £4.85 (Oedolyn) / £3.80 (Consessiwn)

Sut mae archebu Cerdyn Hamdden newydd?

Os ydych chi wedi colli neu ddifrodi eich Cerdyn Hamdden, dylech chi roi gwybod i'ch canolfan hamdden leol ar unwaith i atal unrhyw un arall rhag ei ddefnyddio. Bydd angen talu ffi o £2 am amnewid cardiau sydd wedi'u colli neu wedi'u difrodi – gallwch chi gasglu eich cerdyn newydd yn eich canolfan hamdden leol.

Sut mae cael ‘mis am ddim’ gan ddefnyddio fy mhwyntiau teyrngarwch?

Pan fydd gennych chi ddigon o bwyntiau, byddwch chi'n gallu eu cyfnewid nhw am fis am ddim o ran eich Debyd Uniongyrchol – anfonwch e-bost at y Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid gan nodi eich manylion (enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad post llawn), ac fe wnawn ni drefnu mis am ddim i chi.

Sut mae sefydlu aelodaeth newydd?

Gallwch chi ymaelodi yn eich canolfan hamdden leol neu dros y ffôn trwy gysylltu â'r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid – 01443 863072. Bydd angen manylion eich cyfrif banc a bydd angen gwneud taliad cychwynnol i dalu am eich defnydd hyd nes eich taliad Debyd Uniongyrchol cyntaf.

Mae gen i gwestiwn am fy aelodaeth –, â phwy ydw i'n cysylltu?

Cysylltwch â'r Tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid ar 01443 863072 neu hamdden@caerffili.gov.uk

Sut mae canslo fy nhaliadau Debyd Uniongyrchol?

Mae modd i chi ganslo'ch Debyd Uniongyrchol trwy gysylltu â'ch banc yn uniongyrchol neu drwy anfon e-bost at y Tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Noder, bydd e-byst canslo yn cael eu prosesu ar y diwrnod gwaith nesaf.

Methu dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano?

Cysylltwch â'r Tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid ar 01443 863072 neu hamdden@caerffili.gov.uk