Ystafell ffitrwydd - Amrywiaeth fawr o gyfarpar ymarfer corff. P’un a ydych chi eisiau tynhau’r corff, colli pwysau, magu cryfder neu gynyddu stamina, gallwn helpu.
Neuadd chwaraeon - Neuadd chwaraeon amlbwrpas y gellir ei defnyddio ar gyfer badminton, pêl-fasged, pêl-droed pump bob ochr, pêl-rwyd, pêl foli ac amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon eraill. Mae’r neuadd chwaraeon hefyd ar gael ar gyfer digwyddiadau arbennig fel cyngherddau, dawnsfeydd, arddangosfeydd, ciniawau a chynadleddau. Mae wedi’i thrwyddedu i ddal hyd at 900 o bobl.
Cae pob tywydd – Cae maint llawn sy’n ddelfrydol ar gyfer pêl-droed, rygbi, hoci a digwyddiadau arbennig.
Stiwdio ddawns - Dewch i roi cynnig ar rywbeth newydd! Mae hefyd ar gael i’w logi’n breifat.
Parcio ceir am ddim – gan gynnwys mannau parcio penodol i bobl anabl.
Oriau agor y ganolfan
Noder nad yw rhai cyfleusterau bob amser ar gael i'r cyhoedd ar yr amseroedd uchod. Gwiriwch yr amserlenni am ragor o wybodaeth