Partïon Plant Canolfan Hamdden Sant Cenydd

Gadewch i’ch plant gael amser gwych yn dathlu gyda’u ffrindiau yng Nghanolfan Hamdden Sant Cenydd. Yn ein partïon castell neidio a chwarae meddal ar ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 10am a 12pm, ac 1pm a 3pm, rydyn ni’n darparu’r byrddau a chadeiriau er mwyn i chi fwynhau’r bwyd (hunanarlwyo) yn y stiwdio ddawns.

Mae hefyd gennym ni bartïon pêl-droed yn ein neuadd chwaraeon a’n cae pob tywydd ar ddydd Gwener a phenwythnosau, gyda’r ystafell ddosbarth ar gael ar gyfer bwyd. Byddwn ni wedyn yn clirio’r llanast, felly, rydych chi’n gallu mynd adref ac ymlacio.

Mae lle ar gyfer hyd at 30 o blant yn ein partïon castell neidio.

Ffoniwch y dderbynfa i holi ar 02920 881448 neu e-bostio CHCenyddSant@Caerffili.gov.uk