Pwll nofio – Mae amrywiaeth fawr o weithgareddau ar gael yn y pwll gan gynnwys sesiynau sblasio am ddim, Aqua Fit, gwersi nofio a phartis pen-blwydd.
Cae pob tywydd – Cae maint llawn sy’n ddelfrydol ar gyfer pêl-droed, rygbi, hoci a digwyddiadau arbennig.
Ystafell newid penodol i bobl anabl – Codwr trac nenfwd, bwrdd newid y gellir addasu ei uchder a chawod hygyrch i bobl â phroblemau symudedd cymhleth
Lolfa hamdden – Man gwerthu cyfforddus sy’n ddelfrydol i ymlacio ynddo a gwylio’r gweithgareddau nofio.
Cyfleuster hyfforddiant – Cyfleuster hyfforddiant gyda chyfarpar a chelfi llawn ar gael i’w logi. Perffaith ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd a digwyddiadau arddangos. Mae lluniaeth ar gael o wneud cais. Cysylltwch â’r dderbynfa i gael rhagor o fanylion.
Cyfleusterau Newid – Ystafelloedd newid i ddynion ac i fenywod ar wahân. Ystafell newid ddynodedig i’r anabl/teulu.
Parcio ceir am ddim – gan gynnwys mannau parcio penodol i bobl anabl.
Oriau agor y ganolfan
Noder nad yw rhai cyfleusterau bob amser ar gael i'r cyhoedd ar yr amseroedd uchod. Gwiriwch yr amserlenni am ragor o wybodaeth