Nofio

Os ydych chi’n nofiwr difrifol neu achlysurol ac nid ydych yn siŵr ble i ddechrau, gadewch i ni helpu.

Yma cewch wybodaeth am ein polisi derbyn i byllau nofio, gwersi nofio, a mentrau nofio am ddim ar draws y fwrdeistref sirol.

Canolfannau hamdden gyda chyfleusterau nofio:

Mentrau Nofio am Ddim:

16 ac iau

Mae’r fenter nofio am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn rhoi sesiynau nofio am ddim i bobl ifanc 16 oed ac iau yn ystod gwyliau’r ysgol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y fenter Nofio am Ddim i blant a phobl ifanc ar Wefan Chwaraeon Cymru.

Bydd sesiynau nofio strwythuredig am ddim, gan gynnwys polo dŵr a snorcelu, yn cymryd rhan yn ystod gwyliau’r ysgol.  Cadwch lygad am yr amserlen a gwybodaeth bellach ychydig wythnosau cyn hynny.

60+

Gall pobl hŷn ar draws y fwrdeistref sirol hefyd gymryd rhan yn y fenter gyffrous hon, sy’n rhoi cyfle i bawb dros 60 oed nofio am ddim mewn pyllau nofio lleol o fewn amseroedd dynodedig.

Aelodau’r Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu, a chyn-filwyr

Nofio am ddim i’r Lluoedd Arfog a chyn-filwyr yw’r fenter ddiweddaraf i’w lansio gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i Phecyn Cymorth ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog. Mae aelodau o’r Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr yn gymwys i nofio am ddim gan ddefnyddio’u Cerdyn Braint Amddiffyn sydd ar gael drwy Wasanaeth Disgownt Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Gall aelodau o’r Lluoedd Arfog gael mynediad i nofio am ddim yng nghanolfannau hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac mae ar gael i Gyn-filwyr a Phersonél y Lluoedd Arfog ar wyliau ac sy’n byw yng Nghymru. Mae’r cynllun yn rhoi mynediad i’r holl sesiynau nofio cyhoeddus.

I gael mynediad i’r Cynllun Nofio am Ddim y Lluoedd Arfog, RHAID bod gan Gyn-filwyr a Phersonél y Lluoedd Arfog y ‘Cerdyn Braint Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn’ a Cherdyn Smart CBSC.

Os nad oes gennych gerdyn Disgownt Amddiffyn, cofrestrwch yma;

Cysylltwch â’ch Canolfan Hamdden leol neu ffoniwch ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid cyfeillgar ar 01443 863072 am ragor o fanylion.

Polisi Derbyn i Byllau Nofio