Pwll nofio - pwll nofio 4-lôn 25m, sy’n ddelfrydol ar gyfer nofio, sy’n weithgaredd iach a phleserus. Mae amrywiaeth fawr o weithgareddau ar gael yn y pwll gan gynnwys sesiynau rhieni a phlant bach, cyrsiau nofio ac aerobeg dŵr.
Pwll dysgwyr - Pwll i ddysgwyr – 12.5m o hyd gyda dyfnder unffurf o 1.0m, sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer mamau, tadau a phlant ifanc. Mae’r pwll yn cael ei gynhesu i dymheredd cyfforddus o 33°C, gan ddarparu amgylchedd cynnes a chroesawgar i blant ifanc a theuluoedd. Y lle perffaith i blant o dan 5 oed ddysgu nofio, magu hyder yn y dŵr a mwynhau amser gwerthfawr gyda’r teulu.
Ystafell iechyd - Ar ôl defnyddio’r sawna a’r ystafell stêm yn ein hystafell iechyd Dull Byw, gallwch ymlacio trwy ddarllen cylchgrawn neu wrando ar gerddoriaeth.
Cyfleusterau Newid – Ystafelloedd newid i ddynion ac i fenywod ar wahân. Toiled /ystafell newid i bobl anabl.
Parcio ceir am ddim
Centre opening times
Not all facilities will be open to the public during these times, please check timetables for further information