Aelodaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwella’ch iechyd a ffitrwydd, chwarae chwaraeon raced neu dysgu sut i nofio, mae aelodaeth Dull Byw Hamdden ar eich cyfer chi.

Mae ein Canolfannau Hamdden yn cynnig gwerth gwych am arian. Er mwyn helpu ei gwneud hi hyd yn oed yn haws i ddefnyddio ein Canolfannau Hamdden, mae ystod o becynnau aelodaeth wedi cael eu datblygu i weddu i bob cyllideb a lefel gweithgaredd corfforol. Mae pecyn aelodaeth Dull Byw Hamdden yn ddilys ym mhob un o 10 Canolfan Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae buddion ychwanegol hefyd – gan gynnwys sesiynau cyflwyno a chymorth un i un AM DDIM yn y gampfa, a sesiynau nofio AM DDIM* – felly, beth am uwchraddio i un o’n pecynnau aelodaeth Dull Byw Hamdden heddiw?

Mae aelodaeth corfforaethol, aelodaeth teulu ac aelodaeth consesiynol* ar gael.

I ddod o hyd i’r pecyn aelodaeth sydd mwyaf addas i chi, naill ai ewch i’ch Canolfan Hamdden leol neu ffonio’r tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 863072 a byddan nhw’n hapus i drafod yr opsiynau a phrosesu’ch aelodaeth.

* Gwirio a ydych chi’n gymwys


Arbedion aelodaeth

Darganfyddwch faint o arian y gallech chi ei arbed gyda’ch aelodaeth trwy symud y llithryddion isod: