Gwybodaeth amdanom ni

Mae’r Gwasanaethau Hamdden yn gweithredu 10 o ganolfannau hamdden ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys wyth ystafell ffitrwydd, chwe phwll nofio a phedair ystafell iechyd.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd chwaraeon a hamdden, a’u datblygu nhw, ac rydyn ni bob amser yn ymdrechu i sicrhau bod ein cyfleusterau a’n gwasanaethau yn hygyrch i bawb.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein gwefan o ddefnydd i chi. Os hoffech chi wneud sylwadau, anfonwch e-bost i hamdden@caerffili.gov.uk neu gasglu cerdyn sylwadau o’r dderbynfa yn un o’n canolfannau hamdden. Byddwn ni’n ymateb o fewn pum diwrnod gwaith.

Ein datganiad cenhadaeth

“Mwy o bobl, yn fwy egnïol, yn fwy aml.”
(Cyfranogiad)

Ein gweledigaeth

“Gwella lles corfforol a diwylliannol trigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, a’r rhai sy’n ymweld â hi.”
(Gwella iechyd)

Ein hymrwymiad

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd, sy’n cynnig gwerth am arian, bob tro y byddwch chi’n ymweld ag un o’n canolfannau hamdden ac, felly, rydyn ni’n croesawu eich adborth a’ch awgrymiadau ynghylch sut y gallwn ni wella.
(Ansawdd a gwelliant parhaus)

Rheolwr Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden

Mr Jeff Reynolds

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Canolfan Rhagoriaeth Chwaraeon
Heol Caerffili
Ystrad Mynach CF82 7EP

Ffôn: (01443) 863072

E-bost: hamdden@caerffili.gov.uk