Canolfan Hamdden Caerffili

Tel  029 2085 1845
Email  lccaerph@caerffili.gov.uk
Location  Canolfan Hamdden Caerffili, Virginia Close, Caerffili CF83 3SW.

Pethau i'w gwneud yn Canolfan Hamdden Caerffili

Ein cyfleusterau

  • Pwll nofio - pwll nofio 4-lôn 25m. Mae amrywiaeth fawr o weithgareddau ar gael yn y pwll gan gynnwys sesiynau rhieni a phlant bach, cyrsiau nofio ac aerobeg dŵr.
  • Pwll dysgwyr - 5m o hyd ac â dyfnder sy’n amrywio o 0.4 i 0.8m. Y lle perffaith i blant iau na 5 oed ddysgu nofio neu ar gyfer parti pen-blwydd eich plentyn.
  • Ystafell ffitrwydd – Amrywiaeth fawr o gyfarpar ymarfer corff. P’un a ydych chi eisiau tynhau’r corff, colli pwysau, magu cryfder neu gynyddu stamina, mae ein staff cymwysedig ac ymroddedig yma i helpu.
  • Ystafell iechyd - Ar ôl eich sesiwn ymarfer corff, beth am ymlacio yn ein hystafell iechyd Dull Byw sydd â sawna ac ystafell stêm.
  • Cyrtiau sboncen - 3 chwrt sboncen ar gael i’w llogi am gyfnodau o 45 munud.
  • Neuadd chwaraeon - Neuadd chwaraeon amlbwrpas y gellir ei defnyddio ar gyfer badminton, pêl-fasged, pêl-droed pump bob ochr, pêl-rwyd, pêl foli ac amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon eraill. Mae’r neuadd chwaraeon hefyd ar gael ar gyfer digwyddiadau arbennig fel cyngherddau, dawnsfeydd, arddangosfeydd, ciniawau a chynadleddau. Mae wedi’i thrwyddedu i ddal hyd at 900 o bobl.
  • Ystafell hyfforddiant uwch - gyda TRX, rhaffau brwydro a llawer o gyfarpar ffitrwydd gweithredol.  Mae’r ychwanegiad hwn at ddarpariaeth yr ystafell ffitrwydd yn berffaith i aelodau ei ddefnyddio pryd bynnag yr hoffent neu fel rhan o’r dosbarthiadau hyfforddiant gwersyll.
  • Stiwdio ddawns – Dewch i roi cynnig ar rywbeth newydd! Mae mwy na 90 o  ddosbarthiadau bob wythnos. Mae hefyd ar gael i’w logi’n breifat.
  • Ystafell amlbwrpas Dull Byw - Lleoliad ardderchog ar gyfer cyfarfodydd, cyflwyniadau, cyrsiau hyfforddiant, partis plant ac achlysuron teuluol fel bedyddiadau. Mae taflunydd, sgrin a siartiau troi ar gael hefyd heb gost ychwanegol.
  • Cyfleusterau Newid – Ystafelloedd newid i ddynion ac i fenywod ar wahân.  Ystafell newid ddynodedig i’r anabl/teulu.
  • Parcio ceir am ddim – gan gynnwys mannau parcio penodol i bobl anabl.

Sut i ddod o hyd i Canolfan Hamdden Caerffili