Gwersi Nofio

Dysgwch sut i nofio gyda ni

P’un a ydych chi am fynd i nofio am y tro cyntaf, magu hyder yn y dŵr neu wella techneg, gall ein tîm Ysgol Nofio helpu. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o wersi nofio ar draws 6 o’n canolfannau hamdden sydd â phyllau nofio.

Mae ein tîm hyfforddedig o athrawon nofio’r Gymdeithas Nofio Amatur yn cynnig rhaglen nofio gynhwysfawr gwych yn ein 6 pwll nofio. Mae’r rhaglen ar gael i blant (o bedwar oed), ac mae’r dosbarthiadau yn sicrhau gwell hyder yn y dŵr a thechneg nofio wrth ganiatáu iddyn nhw barhau heb bwysau ar eu cyflymder eu hun.

Mae gwersi nofio cyfrwng Cymraeg hefyd ar gael yn ein canolfannau hamdden drwy Urdd Gobaith Cymru. Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle, ewch i Gweithgareddau’r Urdd.

Pam ymuno ag Ysgol Nofio CBSC?

Pob oedran a gallu – Gwersi hwyl am 48 wythnos y flwyddyn.

Hyfforddwyr Cymwys Nofio Cymru – Dysgwch gyda’r hyfforddwyr gorau.

Nofio cyhoeddus AM DDIM – Gallwch ymarfer rhwng gwersi yn unrhyw un o’n 6 canolfan hamdden AM DDIM gyda Debyd Uniongyrchol Dysgu Nofio.

Cynnydd parhaus – Ennill gwobrau a bathodynnau wrth i chi symud trwy’r camau.

Tawelwch meddwl – Mae achubwr bywyd yn bresennol ym mhob un o’n gwersi.

Gwersi o safon – Mae ein rhaglen yn dilyn fframwaith Dysgu Nofio, Nofio Cymru.

Olrhain eich cynnydd – Gall rhieni fewngofnodi i’r Borthol Hafan i weld cynnydd eu plentyn a chael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch taith nofio eu plentyn. Cael mynediad AM DDIM at Borthol Dysgu Nofio CBSC i weld sut rydych chi neu eich plentyn yn dod ymlaen ac yn symud trwy’r camau.

Dim costau mawr ymlaen llaw – Opsiwn talu’n hawdd yn fisol trwy Ddebyd Uniongyrchol* – £20.20 y mis

*Mae eich pris debyd uniongyrchol chi yn seiliedig ar raglen 48 wythnos dros 12 mis (2 wythnos i ffwrdd ar gyfer y Nadolig a 2 wythnos i ffwrdd ar gyfer gwyliau’r haf ym mis Awst)

 

Cysylltwch â’r Cydlynydd Nofio yn eich canolfan hamdden leol chi am ragor o wybodaeth ac i drafod argaeledd:

Canolfan Hamdden Bedwas – Ffon: 07719997699  / Ebost: lcbedwas@caerffili.gov.uk

Canolfan Hamdden Caerffili – Ffon: 029 2085 1845 / Ebost: lccaerph@caerffili.gov.uk

Canolfan Hamdden Cefn Fforest – Ffon: 07749 587992 / Ebost: lccefn@caerffili.gov.uk

Canolfan Hamdden Heolddu – Ffon: 07933 174374 / Ebost: lcheol@caerphilly.gov.uk

Canolfan Hamdden Trecelyn – Ffon: 01495 248100 / Ebost: lcnewb@caerffili.gov.uk

Canolfan Hamdden Rhisga – Ffon: 01633 600940 / Ebost: lcrisca@caerffili.gov.uk

Cynllun Gwers Nofio:

Dysgu Nofio Cymru Sblash 1-6

Dysgu Nofio Cymru Ton 1-8