Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru

Nod y Cynllun yw safoni cyfleoedd atgyfeirio i ymarfer ar draws pob Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol. Mae’r Cynllun yn ymyrraeth iechyd ar sail tystiolaeth sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol a newid ymddygiad, mae’n cefnogi cleientiaid i wneud a chynnal dewisiadau ffordd o fyw iachach fydd yn gwella eu iechyd a’u lles.

Cwestiynau Cyffredin

Sut mae manteisio ar y gwasanaeth?

Bydd rhaid cael eich atgyfeirio gan arbenigwr iechyd (meddyg teulu, nyrs meddygfa neu ffisiotherapydd sy’n ymwneud â’r clefyd dan sylw, fel arfer) a fydd yn cael cyrchu gwefan y cynllun. Gweler taflen / poster i’r cleifion isod am rhagor o wybodaeth:

  • Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol - Taflen - Agorwch y ddolen yma
  • Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol - Poster - Agorwch y ddolen yma
Oes hawl gyda fi i gymryd rhan yn y cynllun?

Mae dau opsiwn ar gyfer talu ar y Cynllun Atgyfeirio ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Gallwch naill ai dalu £2.00 y sesiwn, neu £37.50 am bob sesiwn dros gyfnod o 16 wythnos. Mae taliadau hyn yn cael eu cytuno yn lleol bob blwyddyn.

Faint fydd y gost?

Mae’r pris wedi codi yn ddiweddar i’n helpu i gynnal y gwasanaeth. £2 y sesiwn yw’r pris ar hyn o bryd. Cytunir ar y pris ym mhob bro bob blwyddyn.

Am faint o amser?

Byddwch chi’n cymryd rhan yn y cynllun rhwng 16 a 32 wythnos yn ôl y rheswm dros eich atgyfeirio.  Bydd pob sesiwn tua un awr a bydd y gweithgareddau’n amrywio boed ymarfer yn y gampfa neu yn yr awyr agored. Mae disgwyl ichi fynychu’r sesiynau a dod i’r cyfweliadau dilynol ar ôl 16 a 52 wythnos. Rydyn ni’n cynnig cyrsiau yn ôl faint o staff cymwysedig sydd ar gael.  I gyflwyno unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r jamesc5@caerphilly.gov.uk.

Beth yw manteision gweithgareddau corfforol?

Manteision i'r corff:

  • Bydd y galon a’r ysgyfaint yn gryfach ac yn fwy effeithlon
  • Bydd y cyhyrau’n gryfach
  • Bydd y cymalau’n gryfach
  • Mae modd lleddfu clefyd yr esgyrn brau
  • Gallech chi golli braster a phwysau diangen
  • Efallai y byddwch chi’n gallu ymlacio a chysgu’n haws
  • Gweithredu’n well yn y byd
  • Teimlo’n fwy effro ac egnïol
  • Sefyll ac eistedd yn dda
  • Helpu i gadw pwysedd eich gwaed ar lefel ddiogel
  • Helpu i osgoi clefyd y siwgr
  • Helpu i osgoi ceulo yn y gwaed
  • Helpu i barhau’n annibynnol yn hytrach na bod yn ddibynnol

Maneision ''r meddwl: (Dyma sylwadau rhai pobl)

  • “Rwy’n llai pryderus bellach”
  • “Mae rhagor o hyder a hunan-barch gyda fi”
  • “Mae gweithgareddau corfforol wedi fy helpu i roi’r gorau i ysmygu”
  • “Fe ges i dipyn o amser rhydd trwy’r sesiynau ymarfer”
  • “Mae fy ngwraig yn dweud fy mod yn llawer mwy hapusach”
  • “Rwyf i wedi ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb am fy iechyd”

Manteision cymdeithasol: (Dyma sylwadau rhai pobl)

  • “Fe ges i gyfle i gwrdd â phobl gyda’r un pryderon â fi”
  • “Rheswm da am adael y tŷ ac ymddiddori mewn rhywbeth newydd”
  • “Cyfle i hel ffrindiau a mwynhau sgwrsio gyda nhw”
  • “Rwy’n teimlo’n fwy heini a galla’ i chwarae’n hirach gyda’r wyrion bellach

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar y cynllun, cysylltwch â: E-bost -  jamesc5@caerphilly.gov.uk Ffon- 07717 467435