Partïon Plant Canolfan Hamdden Caerffili
Mae partïon pwll nofio yn boblogaidd iawn yng Nghanolfan Hamdden Caerffili, mae gennym ddewis o 2 degan gwynt, bach a mawr i ddarparu ar gyfer plant 3-16 oed. Bydd yr holl westeion mewn dwylo diogel gydag amgylchedd wedi’i oruchwylio’n llawn, ar ôl eich nofio gallwch gynnal eich parti yn yr ystafell ddigwyddiadau.
Mae partïon pwll ar gael dydd Sul 2pm – 4pm (1 awr yn y pwll, ystafell barti ar gyfer bwyd 1 awr)
Mae partïon pwll yn costio £150.00 – uchafswm o 30 o westeion yn y pwll
Mae gennym hefyd amrywiaeth o bartïon sych gan gynnwys pêl-droed – £74.95 a thrampolinio – £150.00
Cysylltwch â’r ganolfan am fwy o wybodaeth – 029 20851845 neu e-bostiwch lccaerph@caerffili.gov.uk