Consesiynau

Plant dan 4 oed

Mynediad am ddim i sesiynau nofio cyhoeddus.

Gofalyddion

Bydd gan ofalyddion cofrestredig – sy’n cael Lwfans Gofalwr, sy’n darparu cymorth, ac yn hwyluso mynediad at wasanaethau yn achos cwsmeriaid anabl – yr hawl i gael mynediad am ddim wrth roi cymorth i’r person y maen nhw’n gofalu amdano.

Plant mewn gofal

Bydd pobl ifanc hyd at 18 oed, sydd yng ngofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cael mynediad am ddim i’r gweithgareddau canlynol: nofio, ystafell ffitrwydd, badminton, sboncen a dosbarthiadau. Cysylltwch â’ch Gweithiwr Cymdeithasol dynodedig, a fydd yn trefnu hyn ar eich cyfer chi.

Pobl sy’n gadael gofal

Bydd pobl ifanc rhwng 18 oed a 21 oed (neu’n hŷn, os ydyn nhw mewn addysg amser llawn), sydd newydd adael gofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cael mynediad am ddim i’r gweithgareddau canlynol: nofio, ystafell ffitrwydd, badminton, sboncen a dosbarthiadau. Cysylltwch â’ch Gweithiwr Cymdeithasol dynodedig, a fydd yn trefnu hyn ar eich cyfer chi.

Athletwyr

Bydd gan athletwyr addawol a thalentog, sy’n bodloni ein meini prawf Datblygu Chwaraeon, yr hawl i gael mynediad am ddim er mwyn hyfforddi (h.y. Cynllun Elite Caerffili). Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Chwaraeon Caerffili ar 01495 235497.

Plant iau

Bydd cwsmeriaid o dan 18 oed bob amser yn cael cyfradd ostyngol o 25%. O ganlyniad i fenter sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd pob plentyn 16 oed neu iau yn cael nofio am ddim yn ystod sesiynau penodol yn ystod gwyliau’r ysgol.

Cwsmeriaid dros 60 oed

Bydd cwsmeriaid dros 60 oed yn cael cyfradd ostyngol o 25% ar gyfer gweithgareddau unigol a llogi cwrt sengl. O ganlyniad i fenter sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd pob cwsmer dros 60 oed yn cael nofio am ddim yn ystod sesiynau dynodedig.

Pobl ddi-waith a phobl ar incwm isel

Bydd pobl sy’n cael Credyd Pensiwn Gwarantedig, Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith – yn seiliedig ar incwm/yn seiliedig ar gyfraniadau (Ll), Budd-dal Analluogrwydd, a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael cyfradd ostyngol o 25% ar gyfer gweithgareddau unigol a llogi cwrt sengl.

Myfyrwyr

Bydd unigolion sy’n astudio amser llawn yn cael cyfradd ostyngol o 25% ar gyfer gweithgareddau unigol a llogi cwrt sengl.

Pobl anabl

Bydd unigolion sy’n cael Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn cael cyfradd ostyngol o 25% ar gyfer gweithgareddau unigol a llogi cwrt sengl.

*Mae gostyngiad dosbarthiadau yn wahanol

Os oes gennych chi’r hawl i dalu’r pris consesiynol, lanlwythwch eich prawf o hynny yma.