Paratowch ar gyfer hwyl hanner tymor yng Nghaerffili

Cyhoeddwyd:23 Hydref 2026

Chwilio am ffyrdd o gadw’r plant yn brysur yn ystod hanner tymor mis Hydref? Mae digon o hwyl i’r teulu ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili, gyda nofio, gwersylloedd chwaraeon, dringo a sesiynau chwarae i lenwi gwyliau’r ysgol.

Dechreuwch eich hanner tymor gyda hwyl yn y pwll nofio! P’un a ydych chi’n treulio amser gyda’ch gilydd yn y dŵr neu’n cynnal eich sgiliau nofio trwy’r gwyliau, edrychwch ar amserlenni Dull Byw Hamdden ar gyfer y pyllau  i drefnu eich ymweliad.

Gall darpar bêl-droedwyr, selogion pêl-rwyd a dringwyr mentrus fwynhau amrywiaeth o weithgareddau dros y cyfnod hanner tymor. Mae yna hefyd sesiwn Chwarae Anabledd pwrpasol i blant a phobl ifanc rhwng 4 a 17 oed. Mae modd cadw lleoedd drwy’r Ap Dull Byw Hamdden.

Gweithgaredd Lleoliad Dyddiad Amser Oedran

Gwersylloedd pêl-droed

Canolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, Ystrad Mynach Dydd Mawrth 29 Hydref

9am–3pm

7-12

Dydd Mercher 28 Hydref
Dydd Iau 29 Hydref
(merched yn unig)
Canolfan Hamdden Rhisga Dydd Mawrth 27 Hydref
(merched yn unig)
Dydd Mercher 28 Hydref
Dydd Iau 29 Hydref
Gwersylloedd pêl-rwyd Canolfan Hamdden Sue Noake Dydd Mercher 28 Hydref 9am–3pm 11-14
Canolfan Hamdden Cenydd Sant Dydd Iau 29 Hydref 9am–3pm 7-11
Sesiynau Chwarae Anabledd Canolfan Sgiliau a Dysgu, Pontllan-fraith Dydd Mawrth 29 Hydref 10am–11.30am 4-17
Wal ddringo Canolfan Sgiliau a Dysgu, Pontllan-fraith Dydd Mercher 28 Hydref Amseroedd gwahanol 6+

Am ragor o hwyl yn agos at adref, bydd sesiynau  Chwarae Teithiol am ddim yn digwydd mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol. Nid oes angen cadw lle ar gyfer y sesiynau isod, dim ond cyrraedd yn barod i chwarae!

Dyddiad 10am–11.30am 1pm–2.30pm
Dydd Llun 26 Hydref Neuadd Bentref Llanfach Neuadd Eglwys y Santes Fair, Rhisga
Dydd Mawrth 27 Hydref Canolfan Gymunedol Treowen Canolfan Sgiliau a Dysgu, Pontllan-fraith
Canolfan Gymunedol Maes-y-cwmwr
Dydd Mercher 28 Hydref Canolfan Gymunedol Tirphil Clwb Bechgyn a Merched Pontlotyn
Dydd Iau 29 Hydref Canolfan Gymunedol Plasmawr
Neuadd y Gweithwyr Bedwas
Canolfan Gymunedol Gelligaer
Canolfan Gymunedol Treffilip
Dydd Gwener 30 Hydref Canolfan Hamdden Sue Noake Neuadd Bentref Rhydri

Mae’r rhaglen o weithgareddau yn cefnogi Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol Caerffili 2019-2029, gan helpu plant a theuluoedd i ddod o hyd i gyfleoedd i fod yn egnïol, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a mwynhau bod yn egnïol gyda’i gilydd.