Anturiaethau Caerffili
Nod Anturiaethau Caerffili yw darparu cyfleoedd i bobl o bob oedran a gallu i wneud gweithgareddau awyr agored.
Mae Anturiaethau Caerffili, yn rhan o ddarpariaeth Addysg Awyr Agored Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi’i drwyddedu o dan Reoliadau Trwyddedu Gweithgareddau Antur 1996. Mae hyn yn galluogi Anturiaethau Caerffili i ddarparu gweithgareddau anturus i blant a phobl ifanc o dan 18 oed o fewn cwmpas y drwydded.
Mae’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal gan y grŵp yn cynnwys:
- Caiacio
- Canŵio
- Dringo ac abseilio
- Dringo dan do
- Ogofa
- Mynydda a dringo bryniau
- Gwersylla ac alldeithiau
- Gwobr Dug Caeredin
- Teithiau cerdded anturus (Teithiau Cerdded drwy geunentydd a Theithiau Cerdded Anturus)
- Syrffio (ar gaiac a bwrdd)
- Hyfforddiant ar gyfer hyfforddwyr. Mae hyn yn cynnwys Gwobrau Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol megis Gwobr Arweinydd Mynyddoedd ac Arweinydd Alldeithiau Sylfaenol, Gwobr Dringenni Sengl, Arweinydd Beicio Mynydd, hyfforddiant Hyfforddwr Chwaraeon Padlo a hyfforddiant cymorth cyntaf.
Am ragor o wybodaeth – Ffôn: 01495 271234 neu e-bost AnturiaethauCaerffili@caerffil.gov.uk