Bydd rhaglen o sesiynau nofio anabledd a chwarae anabledd yn cael eu cynnal ledled Caerffili yn ystod gwyliau hanner tymor mis Hydref, gan roi cyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd fod yn egnïol, cael hwyl a chymdeithasu.
Yn rhedeg o ddydd Llun 26 Hydref i ddydd Gwener 30 Hydref, mae’r rhaglen yn dod â sesiynau pwll nofio Dull Byw Hamdden pwrpasol a sesiwn anabledd Chwarae Caerffili ynghyd.
| Dyddiad | Sesiwn | Lleoliad | Amser | Gwybodaeth ychwanegol |
| Dydd Llun 26 Hydref | Sesiwn nofio anabledd | Canolfan Hamdden Caerffili | 10am-11am | |
| Dydd Mawrth 27 Hydref | Sesiwn nofio anabledd | Canolfan Hamdden Bedwas | 10am-11am | |
| Sesiynau Chwarae Anabledd | Canolfan Sgiliau a Dysgu, Pontllan-fraith | 10am–12pm | 4–17 oed. Cadwch le drwy’r ap Dull Byw Hamdden. | |
| Dydd Mercher 28 Hydref | Sesiwn nofio anabledd | Canolfan Hamdden Caerffili | 10am-11am | |
| Sesiwn nofio anabledd (sesiwn dawel) | Canolfan Hamdden Trecelyn | 11am-2pm | Am ddim i blant dan 16 oed. | |
| Dydd Iau 29 Hydref | Sesiwn nofio anabledd | Canolfan Hamdden Bedwas | 11am–12pm | |
| Dydd Gwener 30 Hydref | Sesiwn nofio anabledd | Canolfan Hamdden Bedwas | 11am–12pm | |
| Sesiwn nofio anabledd (sesiwn dawel) | Canolfan Hamdden Heolddu | 11am–12pm |
Mae sesiynau nofio tawel yn Nhrecelyn a Heolddu yn cynnig cyfnodau tawelach i’r rhai sy’n well ganddynt amgylchedd pwll llai swnllyd.
Mae sesiwn anabledd Chwarae Caerffili yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau chwarae mewn amgylchedd croesawgar a chynhwysol. Cadwch le ar gyfer y sesiwn chwarae anabledd drwy’r ap Dull Byw Hamdden.
Mae’r rhaglen yn ategu Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol y Cyngor drwy helpu i leihau rhwystrau’n gysylltiedig â chymryd rhan a darparu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau gweithgarwch corfforol a chwarae.
I gael rhagor o wybodaeth am sesiynau nofio anabledd, cysylltwch â’r ganolfan hamdden berthnasol.