Partïon pwll Canolfan Hamdden Bedwas

Mae’r pwll ym Medwas yn darparu amser pleserus iawn ar gyfer parti eich plentyn, gyda’r Tegan gwynt a fflotiau, a theganau dŵr eraill ar gael.

Tra bod eich plant yn mwynhau’r pwll gallwch fod i fyny’r grisiau i’r man gwylio lle y gellir addurno’r ardal i weddu anghenion eich parti.

Bydd y pwll yn cael ei oruchwylio’n llawn gan ein staff profiadol. Nid oes angen poeni, dim ond eistedd yn ôl ac ymlacio.

Mae partïon pwll yn £150.00 am 2 awr 1 awr yn y pwll ac 1 awr yn yr ardal wylio. Dim ond ar ddydd Sadwrn 2pm – 4pm y mae partïon ar gael. Uchafswm o 30 o gyfranogwyr fesul parti.

Mae angen i unrhyw blant dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn tra yn y pwll drwy gydol y parti.

Cysylltwch â’r dderbynfa i holi – 029 20 852538 neu e-bostiwch lcbedwas@caerffili.gov.uk