Gwaith yn cychwyn ar ailosod cae 3G yng Nghanolfan Hamdden Heolddu

Cyhoeddwyd:24 Tachwedd 2026

Mae gwaith wedi cychwyn ar ailosod cae 3G artiffisial yng Nghanolfan Hamdden Heolddu, gan nodi buddsoddiad arall mewn gwella cyfleusterau chwaraeon ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae’r cae presennol wedi cyrraedd diwedd ei oes weithredol, a bydd y gwaith a ddechreuodd ddydd Llun 23 Tachwedd gweld arwyneb 3G newydd gyda ffens perimedr yn cael ei osod.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu drwy Grant Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru, gan gefnogi defnydd parhaus y cyfleuster gan yr ysgol a’r gymuned ehangach.

Mae’r buddsoddiad hefyd yn cefnogi Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Gweithredol 2019-2029 y Cyngor, sy’n anelu at wella mynediad at gyfleoedd chwaraeon ac annog ffyrdd egnïol o fyw ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae clybiau presennol a defnyddwyr rheolaidd wedi cael gwybod ymlaen llaw am y gwaith, ac mae’r Cyngor yn gweithio i nodi caeau amgen ac i ddarparu ar gyfer archebion lle bynnag y bo modd yn ystod y cyfnod cau dros dro.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:

“Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i fuddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon i sicrhau eu bod nhw’n diwallu anghenion ein cymunedau. Bydd y gwaith ailosod hwn yn darparu maes chwarae o safon i ysgolion a chlybiau lleol ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.”

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu wrth i’r prosiect fynd rhagddo, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ionawr 2027.