Rhoddodd pobl ifanc sy’n cyflawni Gwobr Dug Caeredin drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 4,485 o oriau i wirfoddoli rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026.
Mae eu cyfraniad cyfunol wedi’i gyfrifo i fod â gwerth cymdeithasol o £33,861.75, gan gydnabod yr effaith gadarnhaol y mae eu gwaith wedi’i chael o fewn cymunedau lleol.
Mae gwirfoddoli yn rhan allweddol o raglen Gwobr Dug Caeredin, gan roi cyfle i bobl ifanc gynorthwyo achosion sy’n bwysig iddyn nhw wrth ddatblygu hyder, sgiliau arwain a sgiliau ymarferol.
Anturiaethau Caerffili sy’n arwain rhaglen Gwobr Dug Caeredin y Cyngor, gyda’u staff yn gweithio ochr yn ochr ag arweinwyr Gwobr Dug Caeredin i helpu pobl ifanc i gael profiadau o safon uchel a symud ymlaen drwy eu gwobrau.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Chwaraeon a Hamdden, “Mae hwn yn gyflawniad gwych sy’n dangos y cyfraniad cadarnhaol y mae ein pobl ifanc yn ei wneud i’w cymunedau. Diolch i bob cyfranogwr, aelod o staff ac arweinydd Gwobr Dug Caeredin a wnaeth hyn yn bosibl.”
Drwy wirfoddoli, arwain a gwasanaethu o fewn eu cymunedau, gall cyfranogwyr Gwobr Dug Caeredin feithrin perthnasoedd, datblygu ymdeimlad cryfach o berthyn ac ennill sgiliau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.
Mae’r ffordd y mae’r Cyngor yn cyflwyno Gwobr Dug Caeredin yn ategu ei Strategaeth Chwaraeon ac Hamdden Egnïol 2019–2029, gan helpu pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd amrywiol i ddatblygu sgiliau, dod yn fwy actif a chyflawni eu potensial.