Ystafell Ffitrwydd Trecelyn
Cyfarpar helaeth newydd sbon mewn ystafell ffitrwydd bwrpasol o’r math diweddaraf gydag aerdymheru. Yno ceir mwy na hanner cant o safleoedd sydd â nifer o gymwysiadau.
Bydd y gampfa’n cynnwys yr offer diweddaraf o safon. Melinau traed crwm, erofeicio, offer SkiErg a llawer mwy – mae popeth ar gael yma ar gyfer hyfforddiant cardio.
Os yw’n well gennych chi hyfforddiant codi pwysau, byddwch chi wrth eich bodd â’r dewis o bwysau rhydd a pheiriannau ymwrthiant. Mae modd hyfforddi gyda dymbelau, barbwysau a phlatiau pwysau i weddu i bob lefel, ynghyd â raciau, meinciau a llwyfannau codi sy’n arwain y diwydiant.
Dosbarthiadau ffitrwydd yw un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o gadw’n heini ac yn iach, a gwella’ch lles. Mae gennym ni bopeth – gan gynnwys dosbarthiadau dwysedd uchel ar gyfer cyflyru’r corff, beicio mewn grŵp, ioga, pilates, bocsymarfer a dewis o ddosbarthiadau campau dŵr yn y pwll. Beth bynnag rydych chi’n ei fwynhau, byddwch chi’n dod o hyd i ddosbarth i’w fwynhau dro ar ôl tro.
Oriau Agor
Dydd Llun 6am-9:30pm
Dydd Mawrth 6am-9:30pm
Dydd Mercher 6am-9:30pm
Dydd Iau 6am-9:30pm
Dydd Gwener 6am-9:30pm
Dydd Sadwrn 7am-6pm
Dydd Sul 7am-6pm