Proses gwneud cais am ddefnyddio caeau pob tywydd yn y gaeaf bellach ar agor ledled Caerffili

Cyhoeddwyd:29 Mai 2026

Mae clybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Caerffili yn cael eu gwahodd i wneud cais am ddefnyddio caeau pob tywydd a 3G yn ystod tymor y gaeaf sydd i ddod.

Bydd y broses gwneud cais ar agor tan ddydd Sul 7 Mehefin, gan roi cyfle i glybiau sicrhau amseroedd hyfforddiant a gemau mewn cyfleusterau ledled y Fwrdeistref Sirol.

Bydd dyrannu’n cael ei wneud yn unol â’r meini prawf dyrannu ar gyfer caeau pob tywydd a 3G, wedi’u cymeradwyo gan y Cabinet, gan flaenoriaethu ar sail safleoedd clybiau pêl-droed a rygbi yn y tabl. Mae’r dull hwn yn sicrhau proses glir, gyson a theg sy’n adlewyrchu strwythur y gêm ac yn cefnogi clybiau ar draws pob lefel o gymryd rhan.

Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu gan y gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden, gan helpu rheoli’r galw a manteisio i’r eithaf ar gyfleusterau o safon uchel at ddefnydd cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd,
“Mae ein caeau pob tywydd yn adnodd hanfodol i glybiau a chymunedau ledled Caerffili. Mae’r broses hon yn sicrhau dull teg a thryloyw o ran dyrannu, gan gefnogi clybiau i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer tymor y gaeaf a pharhau i ddarparu cyfleoedd i’w chwaraewyr.”

Mae clybiau’n cael eu hannog i gyflwyno eu ceisiadau erbyn y dyddiad cau i gael eu hystyried.

Mae’r dull hwn yn cefnogi’r uchelgeisiau wedi’u nodi yn y Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019–2029, gan helpu mwy o bobl i fod yn egnïol, yn fwl aml, wrth gryfhau chwaraeon cymunedol ledled y Fwrdeistref Sirol.
Gwnewch gais yma: https://bit.ly/4uiQDgw