Mae Dull Byw Hamdden wedi cyhoeddi wythnos o gynigion a heriau i helpu trigolion i fod yn egnïol fel rhan o Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2026.
Mae Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol, dydd Mercher 16 Medi, yn ymgyrch flynyddol dan arweiniad ukactive sy’n dathlu’r effaith gadarnhaol y gall gweithgarwch corfforol ei chael ar ein hiechyd a’n lles.
Mae’r thema eleni, Dy Nerth Di, yn tynnu sylw at sut y gall pawb chwarae rhan ac yn annog pobl o bob oedran, cefndir a gallu i ddod o hyd i ffyrdd o fod yn egnïol sy’n gweithio iddyn nhw.
Dod â ffrind am ddim
Rhwng dydd Llun 14 Medi a dydd Sul 20 Medi, gall aelodau sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol neu ag arian parod yn fisol ddod â ffrind AM DDIM i sesiynau ystafell ffitrwydd a sesiynau nofio cyhoeddus ym mhob un o’n canolfannau hamdden.
Aelodaeth flynyddol Ffitrwydd Plant £99
Bydd Aelodaeth flynyddol Ffitrwydd Plant hefyd ar gael am £99 trwy gydol yr wythnos ar draws ein holl ganolfannau hamdden, gan roi cyfle i bobl ifanc aros yn egnïol drwy gydol y flwyddyn.
Her Tri Chopa Cymru
Rhwng dydd Llun 14 Medi a dydd Sul 20 Medi, gall cwsmeriaid gymryd rhan mewn Her Tri Chopa Cymru yng nghanolfannau hamdden Caerffili, Heolddu, Trecelyn a Rhisga.
Bydd cyfranogwyr yn cael her i gwblhau 11,250 o gamau cyn gynted â phosibl, sy’n cynrychioli dringo cyfunol Yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan. Bydd y cyfranogwyr gwrywaidd a benywaidd cyflymaf ym mhob canolfan yn cael potel ddŵr a chap chwaraeon Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Mae Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn gyfle gwych i ddod â phobl at ei gilydd a dathlu manteision bod yn egnïol. Rydyn ni’n gobeithio bod y cynigion arbennig hyn yn annog pobl i fod yn egnïol gyda ffrindiau a theulu trwy gydol yr wythnos a meithrin arferion iach ar gyfer y dyfodol.”
Mae’r cynigion a’r her yn ategu Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019–2029 y Cyngor, sy’n anelu at annog rhagor o drigolion i fod yn egnïol a mwynhau ffyrdd iachach o fyw.
*Rhaid talu Aelodaeth flynyddol Ffitrwydd Plant yn llawn ac ni fydd modd ei ad-dalu.