Canolfannau hamdden Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymuno â’r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron

Cyhoeddwyd:2 Medi 2026

Mae canolfannau hamdden ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymuno â Chynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent, gan helpu mamau i deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus wrth fwydo ar y fron tra byddan nhw allan yn y gymuned.

Mae Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili ac ymwelwyr iechyd proffesiynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi arwain y gwaith o gofrestru lleoliadau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan weithio gyda Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden y Cyngor i gynnwys canolfannau hamdden lleol yn y cynllun.

Mae Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent yn ddull partneriaeth sy’n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yn cynnwys pob bwrdeistref sirol yng Ngwent, sef dull Gwent gyfan. Mae’n helpu rhieni i nodi mannau cyhoeddus lle gallan nhw fwydo ar y fron yn hyderus.

Drwy ymuno â’r cynllun, mae canolfannau hamdden sy’n cymryd rhan wedi addo croesawu a chefnogi bwydo ar y fron yn eu mannau cyhoeddus, sicrhau bod staff yn deall anghenion mamau sy’n bwydo ar y fron a’u babanod, a darparu lle cyfforddus a phriodol pan fo hynny’n bosibl.

Bydd logo Croesawu Bwydo ar y Fron yn cael ei arddangos mewn canolfannau sy’n cymryd rhan, gan helpu rhieni i gydnabod eu bod nhw mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Mae ein canolfannau hamdden yn fannau cymunedol i bawb. Rydyn ni am i famau deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus os oes angen iddyn nhw fwydo ar y fron yn ystod eu hymweliad. Mae ymuno â Chynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent yn atgyfnerthu bod ein canolfannau hamdden yn fannau cymunedol croesawgar i bawb.”

Mae busnesau, lleoliadau cymunedol a sefydliadau eraill hefyd yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer y Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron.