Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi agor canolfan gymorth i ddisgyblion a man chwarae amlddefnydd newydd yn swyddogol yn Ysgol Uwchradd Islwyn, gan nodi buddsoddiad mawr mewn addysg a lles cymunedol.
Cafodd y cyfleusterau newydd eu hagor yn ffurfiol gan Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor mewn seremoni, gyda Chadeirydd y Llywodraethwyr, arweinwyr yr ysgol, disgyblion, partneriaid a rhanddeiliaid a chwaraeodd ran allweddol wrth gyflawni’r prosiect hefyd yn bresennol.
Mae’r ganolfan gymorth i ddisgyblion bwrpasol wedi’i datblygu i ddiwallu anghenion newidiol dysgwyr, yn enwedig mewn ymateb i heriau sy’n dod i’r amlwg ers y pandemig COVID-19. Bydd yn darparu amgylchedd diogel, meithringar â ffocws i ddisgyblion sydd angen cymorth ychwanegol, ochr yn ochr â lle pwrpasol i dimau amlddisgyblaethol weithio ar y cyd â staff.
Ochr yn ochr â’r ganolfan gymorth, mae’r man chwarae amlddefnydd newydd yn darparu cyfleusterau awyr agored modern, hygyrch a fydd o fudd i ddisgyblion a’r gymuned ehangach trwy hyrwyddo iechyd, lles a gweithgarwch corfforol.
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Arweinydd Cyngor Caerffili, “Mae’n bleser mawr gen i fod yma heddiw i agor uned gymorth i disgyblion a man chwarae amlddefnydd newydd Ysgol Uwchradd Islwyn yn ffurfiol.
“Mae’r prosiect hwn yn gysylltiedig â’n datblygiad deiliadaeth gymysg blaenllaw yn Lle Cwm Derwen ac mae’n dangos sut mae ein buddsoddiad mewn tai ac isadeiledd cymunedol yn mynd law yn llaw.
“Wrth i ni ddarparu cartrefi newydd, mae buddsoddi yn y cyfleusterau a’r gwasanaethau yr un mor bwysig, er mwyn helpu ein cymunedau i ffynnu. Bydd y cyfleusterau newydd hyn yn helpu disgyblion ac yn dod â buddion ehangach i’r gymuned leol am flynyddoedd i ddod.”
Ychwanegodd Gavin Bryce, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Islwyn, “Rwy’n falch iawn o fod yn Islwyn heddiw ar gyfer agoriad swyddogol y ganolfan gymorth i ddisgyblion – cyflawniad sydd wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd lawer.
“Mae’r ganolfan hon yn adlewyrchu cydymrwymiad llawer o bartneriaid, gan gynnwys yr Awdurdod Lleol, y corff llywodraethu a staff yr ysgol, yn ogystal â chymorth amhrisiadwy tîm ystadau a chontractwyr y Cyngor.
“Bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth gynorthwyo ein dysgwyr, gan eu helpu nhw i feithrin y sgiliau, yr hyder a’r gwytnwch sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo ac, yn y pen draw, wella eu cyfleoedd bywyd.”