Partïon Plant Canolfan Hamdden Rhisga
Gadewch i’ch plant gael amser gwych wrth gael parti gyda’u ffrindiau yng Nghanolfan Hamdden Rhisga. Mae ein partïon Pwll yn cynnwys naill ai’r tegan gwynt bach gyda fflotiau neu’r Tegan ‘Juggernaut’ mawr. Gellir archebu’r partïon hyn ar ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 3:15pm- 5:15pm. Rydym hefyd yn cynnig Castell Neidio a pharti chwarae meddal ar ddydd Sadwrn 12pm-2pm a ddydd Sul, rhwng 11.30 – 1.30pm. Mae pob parti yn cynnwys awr o chwarae ac awr yn ein Swît Machen lle byddwn yn darparu’r byrddau a’r cadeiriau i chi fwynhau’r bwyd (hunan darpar). Yna byddwn yn clirio’r holl lanast, fel y gallwch chi fynd adref ac ymlacio.
Mae Partïon Pŵll yn gyfyngedig i 50 o bobl – £175 a Chastell Neidio i 30 – £150
Cysylltwch â’r dderbynfa i holi – 01633 600940 neu e-bostiwch lcrisca@caerffili.gov.uk