Mae ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu hannog i gymryd rhan yn Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026, a fydd yn lansio ddydd Llun 13 Ebrill.
Wedi’i gyflwyno gan Chwaraeon Cymru a’i gefnogi’n lleol gan Chwaraeon Caerffili, bydd yr arolwg ar agor i ddisgyblion blynyddoedd 3 i 11. Bydd pob ysgol yn cael dolen arolwg unigryw yn uniongyrchol gan Chwaraeon Cymru, ynghyd â chanllawiau llawn ar sut i gymryd rhan.
Mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn cael ei gynnal bob pedair blynedd, ac mae’n chwarae rhan allweddol wrth ddeall sut mae plant a phobl ifanc yn ymgysylltu â chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan helpu llunio darpariaeth yn y dyfodol yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae’r arolwg yn ategu Cwricwlwm Cymru, gan roi mewnwelediad gwerthfawr i ysgolion ar lais disgyblion, gan gynnwys y gweithgareddau y mae disgyblion yn eu mwynhau, yr hyn yr hoffen nhw roi cynnig arno, ble maen nhw’n teimlo’n fwyaf cyfforddus bod yn egnïol a sut mae chwaraeon yn effeithio ar eu lles.
Bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn cael adroddiad wedi’i deilwra, a fydd yn eu helpu nhw i gynllunio a datblygu eu harlwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn seiliedig ar adborth go iawn gan ddisgyblion.
Yr arolwg eleni yw’r mwyaf hygyrch hyd yma, gydag opsiynau iaith ychwanegol, cymorth sain, Iaith Arwyddion Prydain, Makaton a fformat hawdd ei ddeall, ochr yn ochr â dyluniad rhyngweithiol gwell.
Bydd ysgolion sy’n llenwi’r arolwg erbyn dydd Gwener 5 Mehefin heb gymorth ychwanegol gan Chwaraeon Caerffili yn cael eu cynnwys mewn raffl wobrau, gyda’r cyfle i ennill offer chwaraeon gwerth hyd at £250.
Bydd yr arolwg yn cau ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2026, gyda’r canlyniadau’n helpu llywio buddsoddiad a gweithgarwch yn y dyfodol ledled Caerffili a thu hwnt.
Mae’r arolwg yn ategu Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol y Cyngor, sy’n canolbwyntio ar gynyddu lefelau cymryd rhan a gwella cyfleoedd i drigolion o bob oed a gallu.