Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi y gall pobl ifanc 14 oed a hŷn bellach gael defnyddio pwysau ac offer gwrthiant mewn ystafelloedd ffitrwydd ar draws ei ganolfannau hamdden, fel rhan o’i ymrwymiad parhaus i gefnogi ffyrdd egnïol o fyw o oedran cynharach.
Mae’r newid yn rhan o Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol ehangach y Cyngor, sy’n canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau i gyfranogiad, datblygu arferion iach gydol oes a chreu rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc fod yn egnïol mewn ffyrdd sy’n addas iddyn nhw.
Mae’r terfyn oedran newydd yn cael ei gynorthwyo drwy aelodaeth Dull Byw Actif a Mwy i Blant, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed. Mae’r aelodaeth yn costio o £12.05 y mis trwy ddebyd uniongyrchol, sy’n cynnig gwerth arbennig am arian gan roi mynediad at amrywiaeth eang o weithgareddau ar draws canolfannau hamdden.
Gall aelodau Dull Byw Actif a Mwy i Blant fwynhau:
Mae mynediad plant i’r ystafell ffitrwydd yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd diogel a chefnogol, gyda staff cymwys wrth law i ddarparu arweiniad a sicrhau defnydd priodol o offer.
Trwy ostwng yr oedran ar gyfer hyfforddiant codi pwysau, nod y Cyngor yw annog hyder, datblygiad cryfder a pherthnasoedd cadarnhaol â gweithgarwch corfforol yn ystod blynyddoedd datblygiadol allweddol. Gall plant gael mynediad i’r ystafell ffitrwydd o 11 oed. Gallan nhw ddefnyddio offer cardiofasgwlaidd a gallan nhw gael eu haddysgu sut i wneud ymarferion pwysau’r corff.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Mae gostwng yr oedran ar gyfer defnyddio’r ystafell ffitrwydd yn rhoi rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc fod yn egnïol mewn ffyrdd sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Mae’n cynorthwyo datblygiad hyder ac arferion iach yn gynharach, wrth sicrhau bod mynediad yn parhau i fod yn ddiogel, yn gefnogol ac yn groesawgar ar draws ein canolfannau hamdden.”
Mae modd defnyddio aelodaeth Dull Byw Actif a Mwy i Blant ym mhob un o’n canolfannau hamdden ni, gan gynnig hyblygrwydd i deuluoedd a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n addas i’w diddordebau a’u hamserlenni nhw.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer aelodaeth Dull Byw Actif a Mwy i Blant, ewch i:
https://www.caerphillyleisurelifestyle.co.uk/cy/join-at-home/
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r ganolfan hamdden leol.