Telerau ac Amodau Ysgol Nofio Dull Byw Hamdden

Telerau ac Amodau Ysgol Nofio Dull Byw Hamdden

Gwybodaeth am Wersi Nofio:

  • Roedd dyddiadau, amseroedd a phrisiau’r wersi/cyrsiau’n gywir ar adeg argraffu. Mae’r holl wybodaeth yn agored i newid, gyda neu heb rybudd.
  • Cynigir gwersi nofio ar raglen barhaus sy’n gweithredu 48 wythnos y flwyddyn
  • Gall nofwyr symud ymlaen cyn gynted ag y cyflawnir y lefel ofynnol (nid oes proses ailgofrestru)
  • Ar hyn o bryd gall disgyblion Gwersi Nofio nofio am ddim yn ystod pob sesiwn nofio cyhoeddus, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau ysgol.
  • Er mwyn sicrhau cysondeb ac effeithiolrwydd gwersi nofio eich plentyn, gwneir pob ymdrech i sicrhau trefniadau cyflenwi priodol ar gyfer hyfforddwyr pan fyddant yn absennol.
  • Nodwch: efallai y bydd y pwll ar gau o bryd i’w gilydd oherwydd digwyddiadau arbennig.  Darperir cyfnodau rhybudd digonol

Y Broses Dalu:

  • Gellir talu am wersi drwy Ddebyd Uniongyrchol misol (48 wythnos ar draws 12 taliad cyfartal)
  • Gellir prynu gwersi mewn blociau o 10 a’u hadnewyddu ar unrhyw adeg
  • Ni ellir ad-dalu gwersi a chyrsiau

Cansladau:

  • Os hoffech ganslo gwersi nofio eich plentyn, rhaid i chi gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid:  Ffôn; 01443 863072 e-bost; hamdden@caerffili.gov.uk
  • Ni roddir ad-daliadau heb dystysgrif feddygol.
  • Os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol bydd angen i chi ganslo eich debyd uniongyrchol gyda’ch banc neu gymdeithas adeiladu.

Proses Ymgeisio:

  • Efallai y gofynnir i chi fynychu asesiad cychwynnol i sicrhau eich bod yn ymuno â’r rhaglen ar y lefel sy’n briodol i’ch gallu
  • Nodwch ar ôl cofrestru, gellir archebu gwersi’n bersonol yn y ganolfan hamdden o’ch dewis.
  • Gallwch wneud cais i gofrestru ar wers ar y lefel gywir ar unrhyw adeg.  Os nad oes lle ar gael ar eich dewis ddiwrnod/amser, byddwch yn cael yr opsiwn i fynd ar restr aros, neu os yw’n berthnasol, byddwch yn cael cynnig diwrnod/amser neu hyfforddwr nofio arall.
  • Mae’r galw am wersi nofio yn uchel iawn, felly mae pob cais yn cael ei brosesu ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu.  Defnyddiwch un ffurflen gais fesul unigolyn.
  • Gellir talu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol, neu drwy daliadau bloc.