Lansio Cynlluniau Cyfleusterau Pêl-droed Lleol I Gefnogi’r Galw Cynyddol

Cyhoeddwyd:1 Gorffennaf 2026

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn croesawu cynlluniau pum mlynedd newydd wedi’u datblygu ar y cyd â Sefydliad Pêl-droed Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae Cynlluniau Cyfleusterau Pêl-droed Lleol newydd wedi cael eu lansio ledled Cymru i helpu i ddiwallu’r galw cynyddol am bêl-droed ac i wella ansawdd, hygyrchedd a chynaliadwyedd cyfleusterau pêl-droed mewn cymunedau.

Datblygwyd y cynlluniau gan Sefydliad Pêl-droed Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac maent wedi cael eu creu ar y cyd â phob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Caerffili, i nodi blaenoriaethau lleol ar gyfer cyfleusterau pêl-droed newydd a gwell.

Mae’r cynlluniau’n ymateb i’r cynnydd sylweddol mewn cyfranogiad ers i Sefydliad Pêl-droed Cymru gael ei sefydlu yn 2022, gan gynnwys:

  • cynnydd o 21% yn nifer y chwaraewyr cofrestredig yn gyffredinol
  • cynnydd o 47% yn nifer y menywod a’r merched sy’n cymryd rhan
  • cynnydd o 36% yn nifer y chwaraewyr ieuenctid
  • cynnydd o 114% yn nifer y chwaraewyr ag anabledd

Mae pob Cynllun Cyfleuster Pêl-droed Lleol yn nodi gweledigaeth pum mlynedd i fynd i’r afael â’r galw nawr ac yn y dyfodol, ac maent yn cael eu harwain gan bedair blaenoriaeth fuddsoddi genedlaethol:

  • Caeau glaswellt artiffisial 3G
  • Caeau glaswellt naturiol
  • Cyfleusterau oddi ar y cae a chyfleusterau ategol
  • Cyfleusterau pêl-droed hamdden i grwpiau llai

Cafodd y cynlluniau eu llunio drwy broses ymgynghori helaeth a oedd yn cynnwys cynghorau lleol, cymdeithasau ardal, clybiau llawr gwlad a phartneriaid ehangach, gan gynnwys cyrff llywodraethu cenedlaethol eraill a Phartneriaethau Gweithredol. Roedd clybiau pêl-droed llawr gwlad yn chwarae rhan ganolog, gyda dros 50% o glybiau ledled Cymru yn rhoi adborth, gan gynrychioli tua 70% o’r holl chwaraewyr cofrestredig.

Ar gyfer Caerffili, mae’r cynllun yn nodi safleoedd presennol a phosibl lle bydd buddsoddiad wedi’i dargedu yn gwneud y canlynol:

  • Cefnogi twf parhaus pêl-droed menywod a merched
  • Gwella profiadau chwaraewyr, gwirfoddolwyr a gwylwyr
  • Diogelu at y dyfodol drwy waith dylunio sy’n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol
  • Blaenoriaethu’r ardaloedd lle mae’r angen mwyaf
  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd cyllido partneriaeth i gyflymu’r ddarpariaeth

Dywedodd Aled Lewis, Cyfarwyddwr Sefydliad Pêl-droed Cymru:
“Rydym yn edrych ymlaen at ddatgelu’r cynlluniau cyfleusterau pêl-droed lleol hyn i helpu i lunio dyfodol buddsoddi mewn cyfleusterau ledled Cymru. Ynghyd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym yn parhau i ddarparu cyfleusterau o ansawdd uchel i’r cymunedau sydd eu hangen fwyaf.

“Mae gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a chlybiau ar lawr gwlad wedi bod yn hanfodol, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r cydweithrediad hwn i ddarparu cyfleusterau a fydd yn cael effaith gadarnhaol yn barhaol.”
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Chwaraeon a Hamdden,
“Mae’r cynlluniau hyn yn darparu gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol cyfleusterau pêl-droed ledled y Fwrdeistref Sirol. Drwy weithio’n agos gyda Sefydliad Pêl-droed Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’n clybiau lleol, gallwn ni helpu sicrhau bod buddsoddi yn cael ei dargedu lle mae ei angen fwyaf, gan gynorthwyo rhagor o bobl o bob oed a gallu i fwynhau’r gêm am flynyddoedd i ddod.”

Gall trigolion a chlybiau weld eu cynllun lleol yma: www.cff.cymru/local-football-facility-plans.