Hwb Hamdden a Lles Caerffili

Mae Hwb Hamdden a Lles Caerffili yn fuddsoddiad gwerth £38 miliwn sy’n rhan allweddol o gynllun adfywio Caerffili 2035 a rhaglen ehangach Llunio Lleoedd y Cyngor. Wedi’i leoli yng nghanol tref Caerffili, bydd yr Hwb yn disodli Canolfan Hamdden bresennol Caerffili gyda chyfleuster modern, hygyrch sydd wedi’i gynllunio i gynorthwyo iechyd, lles a gweithgarwch yn y gymuned am flynyddoedd i ddod.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu drwy gyfuniad o ffynonellau, gan gynnwys £20 miliwn o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ochr yn ochr â buddsoddiad cyfalaf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a grantiau eraill. Gan adlewyrchu’r uchelgeisiau hirdymor wedi’u nodi yn y Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019-2029, bydd yr Hwb yn dod â gwasanaethau hamdden, ffitrwydd, iechyd a chymunedol at ei gilydd o dan yr un to, gan gynnig cyfleusterau cynaliadwy, cynhwysol fel rhan o weledigaeth hirdymor ar gyfer y dref a’r Fwrdeistref Sirol ehangach.
Cwestiynau Cyffredin
Pam mae’r Hwb yn cael ei adeiladu yng Nghaerffili?
Caerffili yw’r lleoliad mwyaf hygyrch yn y Fwrdeistref Sirol, gyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus cryf a safle canolog. Cafodd y safle ei ddewis fel rhan o raglen Llunio Lleoedd Caerffili i gynorthwyo gydag adfywio canol trefi a darparu cyfleusterau modern, cynhwysol i drigolion ledled y Fwrdeistref Sirol.
Pam mae angen canolfan hamdden newydd arnom ni?
Mae’r ganolfan hamdden bresennol yng Nghaerffili dros 50 mlwydd oed, yn gostus i’w chynnal ac nid yw bellach yn diwallu anghenion gwasanaeth hamdden cyfoes. Ar hyn o bryd, mae’n gweithredu ar golled. Bydd yr Hwb newydd yn ynni-effeithlon, yn gynaliadwy yn ariannol ac wedi’i gynllunio i gynorthwyo iechyd, lles a defnydd cymunedol ymhell i’r dyfodol.
Pa nodweddion fydd gan Hwb Hamdden a Lles Caerffili?
Bydd yr Hwb deulawr newydd yn cynnwys pwll nofio 25m â chwe lôn, pwll hamdden gyda dwy sleid a man chwarae rhyngweithiol yn y dŵr, y cyfan wedi’i wasanaethu gan gyfleusterau newid gwlyb eang a mynediad â chymorth drwy declyn Poolpod. Mae’r arlwy iechyd a lles yn cynnwys ystafell iechyd, ystafell Innerva a stiwdio beicio grŵp. Mae’r cyfleusterau chwaraeon a gemau yn cynnwys neuadd chwaraeon amlbwrpas, dau gwrt sboncen, parth chwarae meddal anturus mawr ac arena TAGactive. Mae mannau cymunedol yn cynnwys caffi/lolfa groesawgar, cyfleusterau Changing Places a hygyrchedd llawn drwyddi draw. Mae’r amwynderau modern, amrywiol hyn wedi’u cynllunio i gynorthwyo gydag iechyd, gweithgarwch ac ymgysylltu cymunedol cyflawn.
Beth yw’r gost a phwy sy’n talu?
Cyfanswm cost y prosiect yw £38 miliwn. Mae £20 miliwn yn dod gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, gyda’r gweddill yn cael ei ariannu gan arian cyfatebol a ffynonellau eraill. Mae hwn yn brosiect buddsoddi cyfalaf, felly mae’r cyllid wedi’i neilltuo ac nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau eraill.
Pam nad oedd modd gwario’r arian mewn mannau eraill?
Mae’r cyllid yn benodol ar gyfer y prosiect hwn. Roedd yn rhaid i Gaerffili wneud cynnig cystadleuol i sicrhau’r Gronfa Ffyniant Bro. Pe na fydden ni wedi gwneud cais, byddai’r cyllid wedi mynd i ardal wahanol. Nid oes modd ei ailddyrannu i wasanaethau eraill y Cyngor fel addysg, ffyrdd neu ofal cymdeithasol.
A yw tref Caerffili yn cael ei blaenoriaethu dros weddill y Fwrdeistref Sirol?
Na. Cafodd tref Caerffili ei dewis oherwydd ei lleoliad canolog, cysylltiadau trafnidiaeth a chyflwr y safle presennol. Ar hyn o bryd, mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithredu mwy o ganolfannau hamdden nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru, ac mae’r buddsoddiad hwn yn cryfhau’r rhwydwaith ehangach o gyfleusterau sydd ar gael i’r holl drigolion, sy’n cyd-fynd â’r Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019-2029.
Beth am ddefnyddio adeiladau presennol fel llyfrgelloedd?
Nid yw adeiladau cymunedol presennol fel llyfrgelloedd wedi’u cynllunio ar gyfer pyllau nofio, neuaddau chwaraeon neu fannau iechyd a ffitrwydd. Mae Hwb pwrpasol yn cynnig llawer mwy o werth, hyblygrwydd a chynaliadwyedd hirdymor nag ôl-osod adeiladau hŷn.
Pam mai dim ond 1.1 metr o ddyfnder yw’r pwll?
Y prif reswm yw effeithlonrwydd ynni. Gwresogi pwll nofio yw un o’r costau rhedeg mwyaf mewn canolfan hamdden. Mae pwll un dyfnder yn defnyddio llai o ddŵr, yn cymryd llai o ynni i’w wresogi ac mae’n fwy cynaliadwy i’w weithredu. Mae hefyd yn gwella diogelwch a hygyrchedd i ddysgwyr ifanc a nofwyr llai hyderus.
Pa nodweddion fydd y pwll yn eu cynnwys?
Bydd yr Hwb yn cynnwys pwll 25 metr, dwy sleid ac ardal chwarae dŵr bwrpasol, gan greu amgylchedd hwyliog a chroesawgar i deuluoedd, yn ogystal â sesiynau nofio strwythuredig.
A fydd gwersi nofio yn parhau yn yr Hwb newydd?
Bydd. Bydd gwersi nofio yn parhau i gael eu darparu, yn unol â fframwaith Dysgu Nofio Nofio Cymru, gyda chyfnodau cynnar a chanolradd ar gael ar y safle newydd. Ar gyfer sgiliau uwch sy’n gofyn am ddŵr dyfnach, fel deifio neu dechnegau achub bywydau, byddwn ni’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r rhai sy’n cael eu heffeithio i ddarparu ateb addas yn un o’n canolfannau hamdden eraill.
A fydd y rhaglen nofio bresennol yn cael ei heffeithio?
Bydd y rhan fwyaf o’r rhaglen nofio bresennol – gan gynnwys sesiynau nofio cyhoeddus, dosbarthiadau ffitrwydd a gwersi plant – yn trosglwyddo i’r Hwb newydd. Ar gyfer sgiliau uwch sy’n gofyn am ddŵr dyfnach, fel deifio neu dechnegau achub bywydau, byddwn ni’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r rhai sy’n cael eu heffeithio i ddarparu ateb addas yn un o’n canolfannau hamdden eraill.
A fydd yr Hwb newydd yn effeithlon o ran ynni?
Bydd. Mae’r adeilad wedi’i gynllunio gan ystyried cynaliadwyedd. Bydd yn defnyddio dulliau adeiladu modern, technolegau cynaliadwy, a systemau ynni-effeithlon i leihau allyriadau carbon a chostau rhedeg, gan gefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol ac ariannol hirdymor.
Beth yw effeithlonrwydd ynni rhagfynegol yr adeilad?
Mae’r adeilad newydd wedi’i gynllunio i dargedu Sgôr Perfformiad Ynni o A.