Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden Caerffili yn cefnogi Wythnos Atal Boddi RLSS y Deyrnas Unedig i hyrwyddo diogelwch dŵr

Cyhoeddwyd:17 Mehefin 2026

Mae Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden Caerffili yn cefnogi Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd (RLSS ) y Deyrnas Unedig i helpu plant a’u teuluoedd fwynhau dŵr yn ddiogel.

Ers dros ddegawd, mae Wythnos Atal Boddi Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y Deyrnas Unedig wedi anelu at roi gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch dŵr i addysgwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr plant cyn misoedd yr haf, pan fydd boddi yn fwyaf tebygol o ddigwydd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae 3,615 o bobl wedi boddi yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Eleni, mae Wythnos Atal Boddi yn ehangu i gyrraedd pobl ifanc 13–17 oed, gan fod data diweddar yn dangos bod marwolaeth oherwydd boddi ymhlith y grŵp oedran hwn wedi cynyddu 67% rhwng 2020–2022 a 2023–2025.

Mae gwybod sut i nofio yn sgìl wych – ond nid yw’n ddigon i gadw’n ddiogel yn y dŵr. Mae cymhwysedd a hyder go iawn yn y dŵr, ac o’i amgylch, yn gofyn am wybodaeth am y Cod Diogelwch Dŵr, gan gynnwys aros gyda’ch gilydd bob amser; stopio a meddwl am beryglon, a’u hasesu nhw, cyn mynd i mewn i’r dŵr; a deall beth i’w wneud mewn argyfwng.

Mae’n bosibl atal boddi. Yn ogystal â rhannu negeseuon diogelwch dŵr i gadw unigolion yn ddiogel, mae Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y Deyrnas Unedig yn ymgyrchu dros atal boddi systemig trwy eirioli dros achubwyr bywyd, hyfforddi pobl eraill sy’n bresennol, a datblygu polisïau diogelwch dŵr unedig gyda’r Llywodraeth.

Dywedodd Ashley Jones, Pennaeth Diogelwch Dŵr ac Addysg, Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y Deyrnas Unedig,
“Rydyn ni’n annog pawb i ddefnyddio adnoddau diogelwch dŵr am ddim gan Gymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y Deyrnas Unedig i roi gwybodaeth hanfodol i blant a phobl ifanc ym mis Mehefin, i sicrhau bod pawb yn ddiogel yn ystod yr haf. Er y bydd diogelwch dŵr lefel sylfaen yn rhan o gwricwlwm ysgolion Lloegr o fis Medi ymlaen, mae angen darparu’r wybodaeth hanfodol hon nawr, cyn yr haf, a ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon i atal trychineb. Gallwn ni i gyd gyfrannu at greu cymunedau sydd heb achosion o foddi.”

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Chwaraeon a Hamdden,
“Rydyn ni’n falch o gefnogi ymgyrch Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y Deyrnas Unedig ac yn annog pawb i ddefnyddio a rhannu’r cynlluniau gwersi, adnoddau a chanllawiau yn ystod Wythnos Atal Boddi a thu hwnt.”

Ewch i wefan Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y Deyrnas Unedig nawr i fanteisio ar adnoddau diogelwch dŵr am ddim i blant, rhieni, gofalwyr ac addysgwyr: https://www.rlss.org.uk/dpw. Rhannwch yr adnoddau hyn gyda’ch cymuned a helpu creu haf mwy diogel i bawb.