Athletwr o Dîm Cymru yn ysbrydoli disgyblion yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod

Cyhoeddwyd:12 Mehefin 2026

Cafodd disgyblion Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod gyfle unigryw i ddysgu gan athletwr rhyngwladol yn ystod ymweliad arbennig wedi’i drefnu gan Chwaraeon Caerffili.

Fe wnaeth Will Bishop, chwaraewr pêl-fasged cadair olwyn yn Nhîm Cymru ac athletwr para sydd wedi ennill medal aur, ymweld â’r ysgol ddydd Mercher 10 Mehefin, gan gyflwyno dwy sesiwn ymarferol a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda disgyblion.

Rhoddodd yr ymweliad gyfle i bobl ifanc glywed am daith chwaraeon Will, yr heriau y mae wedi’u goresgyn, a’r ymroddiad sydd ei angen i gystadlu ar lefel uchel. Hefyd, fe wnaeth disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau diddorol a gofyn cwestiynau am chwaraeon anabledd, pêl-fasged cadair olwyn a chynrychioli eu gwlad.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Will gadw ei deitl naid hir Pencampwriaeth Athletau Awyr Agored, Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain, ac mae wedi cael ei ddewis i gynrychioli Tîm Prydain Fawr yn y gamp pêl-fasged cadair olwyn 3×3 yng Ngemau Prifysgolion y Byd eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Hamdden,
“Roedd ymweliad Will yn gyfle gwych i ddisgyblion ddysgu gan athletwr sy’n cystadlu ar y lefel uchaf. Roedd hefyd yn neges bwerus i’n hatgoffa ni y dylai chwaraeon fod yn hygyrch i bawb. Rydyn ni’n gobeithio y bydd clywed ei stori yn ysbrydoli mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol a sylweddoli’r hyn y maen nhw’n gallu ei gyflawni.”

Mae’r ymweliad yn ategu Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019–2029 Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy’n anelu at greu profiadau cadarnhaol a chyfleoedd hygyrch sy’n annog mwy o blant a phobl ifanc i fwynhau bod yn egnïol.