Disgyblion lleol yn cymryd rhan mewn profiad golff yn y Celtic Manor

Cyhoeddwyd:19 Mehefin 2026

Yn ddiweddar, fe wnaeth ugain o bobl ifanc o bob rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili fwynhau diwrnod golff yng Ngwesty’r Celtic Manor, wedi’i drefnu gan Cae Menai-Davis a The Golf Trust, a oedd yn rhan o Bencampwriaeth “The G4D Open” gyda chymorth Chwaraeon Caerffili.

Daeth y digwyddiad â disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ynghyd o Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod sydd wedi’u lleoli ar safleoedd Ysgol Gyfun Heolddu ac Ysgol Gymunedol Cenydd Sant, gan roi’r cyfle iddyn nhw brofi golff mewn amgylchedd llawn hwyl, croesawgar a chefnogol.

Drwy gydol y dydd, cymerodd y disgyblion ran mewn amrywiaeth o weithgareddau golff, gan ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder a mwynhau’r profiad o chwarae golff yn y Celtic Manor Resort enwog.

Gweithiodd Chwaraeon Caerffili ochr yn ochr â phartneriaid i gefnogi’r cyfle a helpu sicrhau y gallai disgyblion lleol gymryd rhan, gan adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hygyrch i bawb.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Chwaraeon a Hamdden, “Gall cyfleoedd fel hyn gael effaith barhaol ar bobl ifanc, gan roi cyfle iddyn nhw roi cynnig ar rywbeth newydd, datblygu hyder a mwynhau bod yn egnïol. Rydyn ni’n ddiolchgar i Cae Menai-Davis a The Golff Trust am helpu darparu’r profiad hwn i ddisgyblion lleol.”

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cymunedau a Thrawsnewid, “Rydyn ni eisiau i bob person ifanc gael mynediad at gyfleoedd sy’n eu helpu nhw i ddysgu, tyfu a magu hyder. Roedd hwn yn brofiad gwych i’r disgyblion a gymerodd ran ac rwy’n falch eu bod nhw wedi gallu mwynhau diwrnod bydd llawer ohonyn nhw’n ei gofio am flynyddoedd i ddod.”

Mae’r digwyddiad yn ategu nodau Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019–2029, sydd wedi ymrwymo i gynyddu cyfleoedd i bobl o bob oed a gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.