Mae pwll nofio Canolfan Hamdden Trecelyn ar gau dros dro i’r cyhoedd tan 17 Gorffennaf er mwyn caniatáu gwaith gwella hanfodol.
Mae cau’r pwll nofio yn dilyn materion parhaus sy’n effeithio ar y system wresogi, ac yn rhoi cyfle i fwrw ymlaen â nifer o brosiectau cynnal a chadw ac uwchraddio sydd wedi’u cynllunio tra bod y cyfleuster ar gau.
Bydd y gwaith yn cynnwys atgyweirio ac uwchraddio teils y pwll, uwchraddio’r cyfnewidydd gwres, gosod boeleri newydd ac amrywiaeth o waith gwella cyffredinol sydd wedi’i gynllunio i wella dibynadwyedd ac effeithlonrwydd hirdymor y cyfleuster.
Mae’r gwaith yn cefnogi Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019–2029 y Cyngor, sy’n anelu at ddarparu cyfleusterau hamdden cynaliadwy o ansawdd uchel sy’n annog rhagor o drigolion i fod yn egnïol.
Drwy gyfuno’r prosiectau hyn mewn un cyfnod cau, nod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw lleihau’r tarfu yn y dyfodol a gwneud cymaint o waith â phosibl tra bod y pwll ar gau.
Er mwyn helpu cynnal cyfleoedd nofio yn ystod y cyfnod cau, bydd Canolfan Hamdden Cefn Fforest yn ymestyn yr oriau agor o ddydd Iau 18 Mehefin, gan ddarparu rhagor o gyfleoedd nofio i’r cyhoedd wrth barhau i gynnal gwersi nofio ysgolion.
Mae’r amserlen nofio dros dro ar gyfer Canolfan Hamdden Cefn Fforest ar gael yma.
Yn ystod y cyfnod cau, bydd yr hen ystafell codi pwysau yng Nghanolfan Hamdden Cefn Fforest hefyd yn cael ei haddasu i ddarparu cyfleusterau newid hygyrch ychwanegol mewn ymateb i’r galw cynyddol gan gwsmeriaid sydd angen darpariaeth hygyrch.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Chwaraeon a Hamdden, “Bydd y gwaith hanfodol hwn yn gwella dibynadwyedd ac effeithlonrwydd hirdymor y pwll wrth hefyd ganiatáu i ni wella hygyrchedd yn y cyfleuster. Rydyn ni’n gwerthfawrogi amynedd cwsmeriaid yn ystod y cyfnod cau ac yn edrych ymlaen at eu croesawu nhw yn ôl ar ôl i’r gwaith gwella dod i ben.”
Rydyn ni’n annog cwsmeriaid i wirio ap Dull Byw Hamdden a sianeli’r cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf trwy gydol y cyfnod cau.