Oriau agor newydd wedi’u cadarnhau ar gyfer Canolfan Hamdden Tredegar Newydd

Cyhoeddwyd:11 Mawrth 2026

Bydd yr oriau agor newydd yng Nghanolfan Hamdden Tredegar Newydd yn cael eu gweithredu o 1 Ebrill.

O’r dyddiad hwn, bydd y ganolfan hamdden ar agor:
• Dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 1pm ac 8pm trwy gydol y flwyddyn.
• Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 4pm ac 8pm o 1 Medi i 31 Mawrth pan fo’r galw ar ei uchaf.

Mae’r newidiadau hyn yn dilyn y cyfnod ymgysylltu diweddar ynghylch model gweithredu’r ganolfan hamdden.

Rydyn ni’n annog cwsmeriaid i gymryd sylw o’r oriau diwygiedig wrth gynllunio ymweliadau o fis Ebrill ymlaen. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn ag aelodaeth neu logi, cysylltwch â’r ganolfan hamdden yn uniongyrchol neu’n Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid, a fydd yn hapus i’ch helpu.