Mae disgybl o Gwmcarn yn cwrdd â Panda Chwarae Caerffili wrth i gystadleuaeth enwi gael ei lansio

Cyhoeddwyd:23 Gorffennaf 2026

Mae disgybl o Ysgol Gynradd Cwmcarn wedi cwrdd â’r Panda Chwarae Caerffili newydd sbon ar ôl i’w dyluniad buddugol gael ei wireddu fel masgot swyddogol y gwasanaeth.

Yn gynharach eleni, enillodd Madeleine Simmonds-Dickens gystadleuaeth masgot Chwarae Caerffili, gyda’i dyluniad panda lliwgar yn cael ei ddewis o blith ceisiadau a gyflwynwyd gan ddisgyblion ysgolion cynradd ledled y fwrdeistref sirol. Mae ei gwaith celf bellach wedi’i drawsnewid yn fasgot maint llawn, a fydd yn ymddangos mewn digwyddiadau a gweithgareddau i hyrwyddo pwysigrwydd chwarae, ac annog teuluoedd i fanteisio ar gyfleoedd chwarae rhydd am ddim ledled Caerffili.

Gwnaeth y masgot ei ymddangosiad cyntaf yn ystod ymweliad arbennig ag Ysgol Gynradd Cwmcarn, lle cyfarfu Madeleine â Panda Chwarae Caerffili am y tro cyntaf. Fel rhan o’r wobr fuddugol, derbyniodd yr ysgol hefyd offer chwarae gwerth £500.

Bydd plant a theuluoedd nawr yn cael y cyfle i roi enw swyddogol i’r masgot drwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth yn ystod dathliad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ym Mharc Morgan Jones ar Ddydd Mercher 5ed o Awst. Mae’r digwyddiad yn rhan o’r rhaglen ehangach Chwarae yn y Parc, sy’n cael ei chynnal mewn parciau ledled y fwrdeistref sirol drwy gydol gwyliau’r haf.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cymunedau a Thrawsnewid, ac Hyrwyddwr Chwarae Caerffili:
“Mae’n hyfryd gweld dyluniad buddugol Madeleine yn dod yn fyw. Rwy’n siŵr y bydd Panda Chwarae Caerffili yn dod yn ffefryn yn ein digwyddiadau chwarae, ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr enwau creadigol y bydd plant yn eu cynnig yn ystod ein dathliad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol.”

Bydd yr enw buddugol yn cael ei gyhoeddi ar ôl gwyliau’r haf, gyda Panda Chwarae Caerffili ar fin dod yn wyneb cyfarwydd mewn sesiynau Chwarae yn y Parc, digwyddiadau cymunedol a gweithgareddau Chwarae Caerffili yn y dyfodol ledled y fwrdeistref sirol.