Llwybr ras 10 Cilomedr Caerffili newydd mwy gwastad ar gyfer 2026

Cyhoeddwyd:20 Mawrth 2026

Mae trefnwyr ras 10 Cilomedr Caerffili wedi cadarnhau y bydd llwybr ras newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer digwyddiad 2026, gan sicrhau gostyngiad o 14.29% o ran uchder yn dilyn adborth gan redwyr sy’n chwilio am lwybr mwy gwastad a chyson.

Dangosodd adborth gan redwyr awydd clir am gwrs mwy gwastad, llai bryniog, gan ysgogi ailgynllunio’r llwybr ar gyfer 2026.

Bydd y ras yn cychwyn ac yn gorffen yn Crescent Road o hyd, gan osod y digwyddiad yng nghanol tref Caerffili a sicrhau bod awyrgylch diwrnod y ras yn parhau i fod yn rhan ganolog o brofiad ras 10 Cilomedr Caerffili.

O’r man cychwyn yn Crescent Road, bydd y rhedwyr yn mynd ar hyd Heol Pontygwindy tuag at Gylchfan Pwll-y-pant, cyn parhau ar hyd yr A468 y tu ôl i Barc Lansbury. Yna, mae’r llwybr yn mynd ar hyd Van Road, cyn dychwelyd trwy ganol y dref ac yn ôl i Crescent Road ar gyfer y llinell derfyn.

Mae’r llwybr sydd wedi’i ailgynllunio yn cadw cymeriad Caerffili wrth wella llif a hygyrchedd, gan greu llwybr sy’n cefnogi rhedwyr o bob gallu – o’r rhai sy’n cwblhau eu ras 10 cilomedr gyntaf i athletwyr profiadol sydd am guro amserau gorau personol a recordiau clybiau.

Mae llwybr diwygiedig hefyd wedi’i gynllunio ar gyfer ras 2 Gilomedr Caerffili, sy’n cyd-fynd â chynllun newydd y ras 10 Cilomedr ac yn gwella’r profiad cyffredinol ar ddiwrnod y ras i redwyr ifanc a theuluoedd. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Meddai Chris Morgan:
“Mae ras 10 Cilomedr Caerffili yn ddigwyddiad blaenllaw i’r Fwrdeistref Sirol ac yn dathlu cyfranogiad cymunedol mewn gweithgarwch corfforol. Mae gwrando ar adborth rhedwyr wedi bod yn ganolog i’r penderfyniad i gyflwyno’r llwybr newydd hwn. Trwy leihau’r uchder a gwella cysondeb, rydyn ni’n creu llwybr sy’n fwy cynhwysol ac yn fwy cefnogol i nodau personol, dim ots a yw hynny’n golygu cwblhau ras 10 cilomedr am y tro cyntaf neu fynd ar drywydd amser gorau personol newydd.”

Mae diweddaru’r llwybr hefyd yn cyd-fynd â Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol y Cyngor, sy’n canolbwyntio ar leihau rhwystrau i gymryd rhan, annog gweithgarwch gydol oes a chreu cyfleoedd croesawgar i bobl fod yn egnïol yn eu cymunedau lleol.

Mae ras 10 Cilomedr Caerffili eisoes wedi profi perfformiadau cryf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda record y cwrs i’r dynion wedi’i osod gan Dewi Griffiths, a orffennodd mewn 29 munud a 12 eiliad yn 2024. Mae record y cwrs i fenywod yn cael ei ddal gan Olivia Tsim, gydag amser o 34 munud a 58 eiliad. Mae’r perfformiadau hyn yn parhau i fod yn feincnodau rhagorol, ac mae llwybr 2026 wedi’i gynllunio i greu amodau cryf i redwyr sy’n anelu at herio eu hamserau gorau personol eu hunain.

I gofrestru ar gyfer ras 10 Cilomedr Caerffili, ewch i www.caerphilly10k.co.uk.