Bydd pencampwraig y byd, Lauren Price, yn dychwelyd i Ystrad Mynach fis nesaf wrth iddi hi barhau i baratoi ar gyfer ei gornest teitl y byd sydd ar ddod.
Bydd y sesiwn ymgysylltu â chefnogwyr yn cael ei chynnal yn Ystafell Aaron Ramsey yn y Ganolfan Ragoriaeth Chwaraeon ddydd Sadwrn 7 Mawrth, rhwng 12pm a 2pm, gan roi cyfle i gefnogwyr gwrdd â Lauren, casglu tocynnau ar gyfer yr ornest, a phrynu nwyddau swyddogol cyn noson yr ornest.
Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle i gefnogwyr bocsio lleol ddangos eu cefnogaeth, ymgysylltu ag un o ffigyrau chwaraeon mwyaf blaenllaw Cymru, a bod yn rhan o gyfnod pwysig yng ngyrfa broffesiynol Lauren.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden,
“Mae taith Lauren yn parhau i ysbrydoli pobl ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili a thu hwnt. Mae ei chroesawu hi’n ôl i Ystrad Mynach yn rhoi cyfle i gefnogwyr lleol gysylltu â hi a rhannu’r cyffro cyn yr ornest fawr.”
A hithau yn enillydd medal aur Olympaidd a phencampwraig y byd, mae Lauren Price yn parhau i fod yn gysylltiedig â’i thref enedigol ac yn parhau i fod yn fodel rôl pwerus i athletwyr uchelgeisiol ledled Cymru a’r sîn bocsio yn y Deyrnas Unedig.
Mae tocynnau ar gyfer yr ornest sydd ar ddod ar gael drwy gysylltu â 07810 018974.
Mae’r sesiwn ymgysylltu â chefnogwyr yn cael ei chynorthwyo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac mae’n cyd-fynd â Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019-2029 y Cyngor sy’n anelu at ysbrydoli cyfranogiad, dathlu llwyddiant chwaraeon lleol, a darparu llwybrau gweladwy i chwaraeon a gweithgarwch corfforol i drigolion o bob oedran.