Sesiynau anabledd hanner tymor mis Hydref ledled Caerffili

Cyhoeddwyd:23 Hydref 2026

Bydd rhaglen o sesiynau nofio anabledd a chwarae anabledd yn cael eu cynnal ledled Caerffili yn ystod gwyliau hanner tymor mis Hydref, gan roi cyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd fod yn egnïol, cael hwyl a chymdeithasu.

Yn rhedeg o ddydd Llun 26 Hydref i ddydd Gwener 30 Hydref, mae’r rhaglen yn dod â sesiynau pwll nofio Dull Byw Hamdden pwrpasol a sesiwn anabledd Chwarae Caerffili ynghyd.

Dyddiad Sesiwn Lleoliad Amser Gwybodaeth ychwanegol
Dydd Llun 26 Hydref Sesiwn nofio anabledd Canolfan Hamdden Caerffili 10am-11am
Dydd Mawrth 27 Hydref Sesiwn nofio anabledd Canolfan Hamdden Bedwas 10am-11am
Sesiynau Chwarae Anabledd Canolfan Sgiliau a Dysgu, Pontllan-fraith 10am–12pm 4–17 oed. Cadwch le drwy’r ap Dull Byw Hamdden.
Dydd Mercher 28 Hydref Sesiwn nofio anabledd Canolfan Hamdden Caerffili 10am-11am
Sesiwn nofio anabledd (sesiwn dawel) Canolfan Hamdden Trecelyn 11am-2pm Am ddim i blant dan 16 oed.
Dydd Iau 29 Hydref Sesiwn nofio anabledd Canolfan Hamdden Bedwas 11am–12pm
Dydd Gwener 30 Hydref Sesiwn nofio anabledd Canolfan Hamdden Bedwas 11am–12pm
Sesiwn nofio anabledd (sesiwn dawel) Canolfan Hamdden Heolddu 11am–12pm

Mae sesiynau nofio tawel yn Nhrecelyn a Heolddu yn cynnig cyfnodau tawelach i’r rhai sy’n well ganddynt amgylchedd pwll llai swnllyd.

Mae sesiwn anabledd Chwarae Caerffili yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau chwarae mewn amgylchedd croesawgar a chynhwysol. Cadwch le ar gyfer y sesiwn chwarae anabledd drwy’r ap Dull Byw Hamdden.

Mae’r rhaglen yn ategu Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol y Cyngor drwy helpu i leihau rhwystrau’n gysylltiedig â chymryd rhan a darparu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau gweithgarwch corfforol a chwarae.

I gael rhagor o wybodaeth am sesiynau nofio anabledd, cysylltwch â’r ganolfan hamdden berthnasol.