Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin yn codi £7,000 drwy ras 2 Gilomedr Caerffili

Cyhoeddwyd:31 Gorffennaf 2026

Fe wnaeth dros 100 o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin gymryd rhan yn ras 2 Gilomedr Caerffili eleni, gan helpu codi mwy na £7,000 i’r ysgol a sicrhau buddugoliaeth yn Her Gymunedol Ysgolion 2026.

Fe wnaeth yr ysgol gofnodi’r nifer fwyaf o blant yn cymryd rhan yn y categori ysgolion, gan ennill tocyn rhodd fel rhan o’r her, sy’n gwobrwyo ysgolion a chlybiau chwaraeon am annog pobl i gymryd rhan yn y digwyddiad.

Bydd yr arian sydd wedi’i godi yn cyfrannu tuag at offer newydd, adnoddau dysgu a chyfleoedd i ddisgyblion. Gallai’r arian hefyd gyfrannu tuag at ddatblygu trac The Daily Mile ar faes chwarae’r ysgol a helpu lansio clwb rhedeg ar ôl ysgol newydd, ‘Cwrt Rawlin 2K’.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Chwaraeon a Hamdden:
“Mae gweld mwy na 100 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn ras 2 Gilomedr Caerffili yn wych. Mae’r Her Gymunedol wedi’i chynllunio i annog ysgolion, teuluoedd a chymunedau i fod yn egnïol gyda’i gilydd, ac mae Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin wedi manteisio’n llawn ar y cyfle hwnnw wrth godi swm anhygoel o arian i’r ysgol.”

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cymunedau a Thrawsnewid:
“Mae hwn yn gyflawniad gwych gan gymuned gyfan yr ysgol. Bydd yr arian sydd wedi’i godi yn helpu gwella cyfleoedd i ddisgyblion ac ategu amgylchedd lle gall plant ddysgu, datblygu a chyrraedd eu llawn botensial.”

Er bod y digwyddiad bellach wedi digwydd, mae tudalen codi arian yr ysgol yn parhau i fod ar agor ac mae croeso i roddion ar-lein o hyd.

Gall ysgolion a chlybiau chwaraeon gysylltu â thîm y digwyddiad am ddolen olrhain unigryw a’r cyfle i ennill tocyn rhodd yn 2027.

Mae’r broses gofrestru ar gyfer rasys 10 Cilomedr a 2 Gilomedr Caerffili 2027 bellach ar agor, gyda phrisiau wedi’u rhewi tan 30 Medi. Cofrestrwch nawr ac arbed arian yn www.caerphilly10k.co.uk.