Rhodd mwyaf i Lamau yn dilyn ras 10 Cilomedr Caerffili

Cyhoeddwyd:23 Gorffennaf 2026

Mae ras 10 Cilomedr Caerffili 2026 wedi codi’r swm uchaf erioed o £1,107.50 i Llamau, partner elusennol swyddogol y digwyddiad.

Cafodd yr arian ei roi gan redwyr a ddewisodd gefnogi’r elusen wrth gofrestru ar gyfer y digwyddiad, a groesawodd 3,700 o gyfranogwyr yn y rasys 10 Cilomedr a 2 Gilomedr ym mis Mai.

Cafodd y siec ei chyflwyno yn y Ganolfan Ragoriaeth Chwaraeon yn Ystrad Mynach gan y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Chwaraeon a Hamdden, a ddywedodd,
“Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi codi’r swm uchaf erioed i Llamau drwy’r digwyddiad eleni. Hoffwn i ddiolch i bawb a ddewisodd gyfrannu wrth gofrestru ac i Llamau am eu cefnogaeth werthfawr fel ein partner elusennol, yn ogystal â’r gwaith pwysig maen nhw’n ei wneud yn helpu pobl ledled ein cymunedau ni.”

Ychwanegodd Michael Houghton, Prif Swyddog Codi Arian i Llamau,
“Mae codi £1,107.50 yn gyflawniad gwych ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb a ddewisodd gefnogi Llamau yn y digwyddiad eleni. Rydyn ni wedi bod yn falch o fod yn bartner elusennol ras 10 Cilomedr Caerffili a hoffem ni ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ni drwy gydol y bartneriaeth.”

Gyda digwyddiad 2026 yn nodi blwyddyn olaf partneriaeth elusennol Llamau, mae ceisiadau bellach ar agor i sefydliadau sydd â diddordeb mewn dod yn bartner elusennol swyddogol ras 10 Cilomedr Caerffili, yn ogystal â busnesau sy’n dymuno hybu’r digwyddiad drwy amrywiaeth o gyfleoedd noddi. Gall sefydliadau sydd â diddordeb mewn noddi neu ddod yn bartner elusennol swyddogol ar gyfer digwyddiad 2027 gofrestru eu diddordeb drwy’r Ffurflen Gais Noddi a Phartneriaid Ras 10 Cilomedr Caerffili.

Mae ras 10 Cilomedr Caerffili yn dychwelyd ddydd Sul 10 Mai 2026. Mae’r prisiau presennol wedi’u rhewi tan 30 Medi 2026, gan roi cyfle i redwyr sicrhau eu lle am y pris isaf sydd ar gael.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael i’r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y digwyddiad yn www.caerphilly10k.co.uk.

Mae ras 10 Cilomedr Caerffili yn ategu Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019-2029, gan helpu annog rhagor o bobl i ddod yn actif a chymryd rhan mewn cyfleoedd gweithgareddau corfforol ledled y Fwrdeistref Sirol.