Gwella mannau chwarae ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cyhoeddwyd:10th March 2026

Mae rhaglen o welliannau yn cael ei chyflwyno fesul cam mewn sawl parc ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, i wella ansawdd, hygyrchedd a chynhwysiant cyfleusterau chwarae lleol er budd plant a theuluoedd.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd gwaith uwchraddio yn digwydd yn y parciau canlynol:
Parc Waunfawr
Parc Bargod
Parc Cwm Darran
Parc Morgan Jones
Parc Ystrad Mynach
Maes y Sioe, Coed Duon

Bydd y parciau yn parhau i fod ar agor yn ystod y cyfnod hwn; fodd bynnag, ni fydd modd defnyddio rhai darnau unigol o offer chwarae. Mewn rhai mannau, mae eitemau presennol wedi’u tynnu am resymau diogelwch, yn barod am osod offer chwarae mwy cynhwysol, newydd. Bydd ffensys diogelwch yn cael eu gosod o amgylch y mannau dan sylw i sicrhau diogelwch ymwelwyr a’u bod nhw’n cael gwybod am yr hyn sy’n cael ei wneud.

Ym Mharc Ystrad Mynach, mae’r strwythur chwarae poblogaidd ar ffurf goleudy wedi cael ei dynnu yn ddiweddar, ar ôl cyrraedd diwedd ei oes ddefnyddiol ac nad oedd bellach yn addas ar gyfer gwaith atgyweirio. Bydd nodwedd chwarae newydd yn cael ei gosod fel rhan o’r rhaglen ehangach.

Mae’r gwelliannau hyn yn cael eu hariannu drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan 2025–26, sy’n cefnogi datblygu a gwella mannau chwarae hygyrch o ansawdd uchel er budd plant a theuluoedd ledled Cymru.

Dywedodd Carol Andrews, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr Chwarae,
“Mae mannau chwarae cynhwysol o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer datblygiad, lles a chysylltiad cymdeithasol plant. Bydd y rhaglen hon o welliannau ledled ein parciau yn sicrhau bod rhagor o blant, gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol, yn gallu mwynhau cyfleoedd chwarae diogel, ysgogol a hygyrch yn eu cymuned leol. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein mannau chwarae yn groesawgar ac yn gynhwysol i bawb.”

Ychwanegodd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd,
“Mae ein parciau a’n mannau gwyrdd yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi cymunedau iach ac egnïol. Mae buddsoddi mewn offer modern, gwydn a chynhwysol mewn nifer o safleoedd yn sicrhau bod ein parciau lleol yn parhau i fod yn fannau gwerthfawr i deuluoedd am flynyddoedd i ddod.”

Bydd y gwelliannau yn helpu sicrhau bod mannau chwarae lleol yn parhau i ddarparu cyfleoedd diogel, cynhwysol ac o ansawdd uchel i blant a theuluoedd.

Bydd diweddariadau, gan gynnwys amserlenni’r gwaith gosod, yn cael eu cyhoeddi wrth i’r gwaith fynd rhagddo.