Chwaraeon Caerffili

Croeso

Mae chwaraeon ym mwrdeistref sirol Caerffili yn ffynnu ac ni fu erioed cymaint o gyfle i chi gymryd rhan, gwirfoddoli, hyfforddi neu wylio. Gallwn eich helpu i ddarganfod sut i gymryd rhan mewn chwaraeon, dod yn hyfforddwr, dod o hyd i ffynonellau cyllid chwaraeon a darganfod mwy am chwaraeon anabledd.

Anabledd a Chynhwysiant Cyfeiriadur Chwaraeon Caerffili: Cliciwch yma

Nod Chwaraeon Caerffili yw datblygu cyfleoedd chwaraeon o safon yn y gymuned i bobl anabl ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae’r cyfeiriadur hwn yn rhestru rhai o’r clybiau chwaraeon a gweithgaredd corfforol sy’n cynnig cyfleoedd i bobl o bob oed a gallu.

 

 FFRAMWAITH SYLFEINI CYMRU

Mae Chwaraeon Caerffili yn falch o rannu adnodd sydd wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru.

Mae Fframwaith Sylfeini Cymru yn ganllaw arfer da ar gyfer yr holl alluogwyr ledled Cymru sy’n ymwneud â threfnu, hyrwyddo a chyflwyno gweithgareddau corfforol a chwaraeon i blant 3 i 11 oed, mewn ysgolion, lleoliadau allgyrsiol, yn y gymuned ac ar lawr gwlad.Hefyd mae adnoddau ychwanegol, canllawiau a mynediad i blatfform dysgu ar-lein Chwaraeon Cymru – Citbag drwy’r ddolen isod.

Fframwaith Sylfeini Cymru | Chwaraeon Cymru

Canllawiau Enwebu

Gall Clybiau Chwaraeon sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili nawr wneud cais am y cyllid hwn unwaith eto ym 2025-26 (hyd at £2,500 y clwb) i wella eu cyfleuster a chynyddu cyfleoedd i gymryd rhan.

I gael ffurflen gais, nodiadau canllaw, adroddiad cwblhau prosiect neu i ddarganfod a ydych chi’n bodloni’r meini prawf ar gyfer y grant hwn, mae popeth mewn un lle i chi yma!

Mae enghraifft PDF o’r ffurflen gais ar gael er gwybodaeth – cliciwch yma

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, e-bostiwch chwaraeoncaerffili@caerffili.gov.uk

Hysbysiadau Preifatrwydd

Gwersylloedd Chwaraeon Caerffili (CWESTIYNAU CYFFREDIN)

Gyda gwyliau’r ysgol ar y gorwel, mae’r Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden wedi trefnu amserlen o weithgareddau sy’n llawn hwyl ac sy’n ceisio cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i blant ddatblygu eu sgiliau wrth gael hwyl.

Rydyn ni’n cynnig y cyfle i blant 7–12 oed ddatblygu eu sgiliau gyda hyfforddwyr proffesiynol, cwbl gymwys drwy sesiynau difyr a chyffrous mewn amgylchedd diogel a deniadol.

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth as Athletau Cymru i ddarparu’r gwasanaeth archebu hwn ar gyfer proses llyfnach ac eglur i chi.  ARCHEBWCH NAWR

  • Mae’n ofynnol i Rieni/Gwarcheidwaid ddarllen ein Telerau ac Amodau llawn cyn archebu lle ar un o’n Gwersylloedd Chwaraeon.
  • Rhaid i blant fod rhwng 7 a 12 oed
  • Dim cyfraddau consesiwn a rhaid i bawb dalu ar adeg archebu gan ddefnyddio’r system archebu ar-lein

DIM OND HYN A HYN O LEOEDD SYDD AR GAEL RHAID CADW LLE / TALU YMLAEN LLAW CYN MYND

Ebost: sportcaerphilly@caerphilly.gov.uk

Awn Amdani Ferched

Awn amdani, Ferched yw ymgyrch Chwaraeon Caerffili ar gyfer merched a menywod sydd â’r nod o gael mwy o fenywod i fod yn fwy egnïol, yn fwy aml drwy wahanol fathau o weithgareddau corfforol.

Mae’r gwersylloedd haf hyn yn targedu’r holl ferched 11-16 oed sy’n ceisio magu eu hyder a rhoi cynnig ar wahanol weithgareddau chwaraeon i ddod o hyd i rywbeth y byddan nhw’n ei fwynhau. Bydd trafodaethau hefyd am ddewisiadau bwyd iach, hyder y corff, effaith y cyfryngau cymdeithasol ac annog ein gilydd i fod y gorau y gallwn ni fod.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau hyn neu’r ymgyrch, Awn amdani, Ferched, Ebost: sportcaerphilly@caerphilly.gov.uk

 

Caerffili Elît

Mae Cynllun Caerffili Elitaidd wedi’i sefydlu i gynorthwyo datblygiad a llwyddiant posibl pobl chwaraeon. Nod y cynllun yw lleihau baich ariannol costau hyfforddi ar gyfer athletwyr dawnus, y mae llawer ohonynt yn dymuno cymryd rhan a chynrychioli Cymru a/neu Brydain Fawr yn eu campau priodol ar y llwyfan rhyngwladol.

Ebost: sportcaerphilly@caerphilly.gov.uk

Mae Chwaraeon Caerffili yn falch o dderbyn cyllid y Loteri Genedlaethol. Mae’r Loteri Genedlaethol wedi gweddnewid chwaraeon yng Nghymru ers dros 31 mlynedd. Mae’r Loteri Genedlaethol yn ariannu athletwyr elitaidd Cymru yn uniongyrchol, yn cefnogi’r clybiau ar lawr gwlad maent yn dod i’r amlwg drwyddynt, ac yn buddsoddi mewn creu cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf. Dysgwch sut mae eich rhifau Loteri Genedlaethol yn gwneud i bethau anhygoel ddigwydd drwy fynd i www.lotterygoodcauses.org.uk 

Facebook Icon Twitter Icon