Y broses ymgeisio ar agor i noddi ras 10 Cilomedr Caerffili

Cyhoeddwyd:6 Gorffennaf 2026

Rydyn ni’n gwahodd busnesau a sefydliadau i gofrestru eu diddordeb mewn noddi ras 10 Cilomedr Caerffili, a fydd yn cael ei chynnal nesaf ddydd Sul 9 Mai 2027.

Yn dilyn y digwyddiad mwyaf llwyddianus yn 2026 gyda 3,700 o redwyr yn cymryd rhan yn y rasys 10 Cilomedr a 2 Gilomedr Caerffili a miloedd o wylwyr yn eu cefnogi nhw ledled canol tref Caerffili, mae’r broses ymgeisio bellach ar agor i noddi’r digwyddiad yn 2027.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yng nghanol tref Caerffili ac mae’n parhau i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan greu awyrgylch bywiog i redwyr, trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, wrth ddarparu hefyd gyfleoedd i fusnesau a sefydliadau gefnogi un o ddigwyddiadau cymunedol mwyaf y Fwrdeistref Sirol ac ymgysylltu’n uniongyrchol â chyfranogwyr a gwylwyr ar y diwrnod.

Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael, gan gynnwys bod yn brif noddwr, yn bartner elusennol a noddi pecynnau nawdd y digwyddiad fel bibiau, medalau a brandio’r ras.

Bydd y broses ymgeisio i noddi yn agor ddydd Llun 6 Gorffennaf ac yn cau ddydd Sul 2 Awst.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Mae ras 10 Cilomedr Caerffili yn parhau i dyfu bob blwyddyn ac mae wedi dod yn ddigwyddiad pwysig i’r Fwrdeistref Sirol. Rydyn ni’n annog busnesau a sefydliadau lleol yn arbennig i gymryd rhan a helpu cynorthwyo dyfodol hirdymor y digwyddiad.”

I gofrestru eich diddordeb a gweld y cyfleoedd sydd ar gael, ewch i: bit.ly/3RgmHng

Mae ras 10 Cilomedr Caerffili yn ategu Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019-2029, gan helpu annog rhagor o bobl i ddod yn actif a chymryd rhan mewn cyfleoedd gweithgareddau corfforol ledled y Fwrdeistref Sirol.