Polisi Cewynnau Nofio

Gall babanod a phlant bach anwybyddu’r rhybuddion pan fyddan nhw’n cael llawer o hwyl, dyna pam mae’n rhaid i bob plentyn o dan 3 oed ddilyn ein system cewynnau dwbl yn ein pyllau nofio, sy’n golygu gwisgo cewyn nofio papur (tafladwy neu y gellir ei ailddefnyddio) oddi tan gewyn neoprene cymeradwy.

Mae ymchwil helaeth yn dangos mai’r cyfuniad hwn sydd orau ar gyfer osgoi damweiniau yn y pwll nofio.  Efallai nad ydych chi’n gwybod, ond nid yw cewynnau nofio cyffredin yn ddigon i osgoi gollyngiadau. Mae osgoi gollyngiadau yn helpu atal pob math o haint rhag lledaenu ac yn stopio’r pwll rhag cael ei gau.

Dewis cewyn papur i’w wisgo o dan y cewyn neoprene

O ran y cewyn papur, mae yna sawl cewyn nofio tafladwy ar gael ar y farchnad, fel Huggies Little Swimmers. Ni ddylech chi geisio defnyddio cewyn tafladwy cyffredin, gan y bydd yn gwneud ei waith yn unig ac yn amsugno llawer iawn o ddŵr y pwll.  Mae cewynnau gorlawn yn hollti ar agor, sy’n golygu bod mwy o risg o halogi’r pwll.

Dewis cewyn neoprene i’w wisgo ar ben y cewyn papur

Rhaid i’r cewyn neoprene ffurfio sêl dda o amgylch boliau a morddwydydd bach, felly mewn gwirionedd, nid dyma’r amser i brynu un sy’n ddau faint yn fwy a ‘gadael i’r plentyn dyfu i mewn iddo’!  Mae gennym ni amrywiaeth o’r ddau fath o gewynnau i’w prynu yn y dderbynfa.

Os byddwch chi’n gweld gollyngiad
Os bydd unrhyw beth byth yn dianc o gewyn (p’un ai’ch babi eich hun neu fabi rhywun arall), dywedwch wrth ein staff ar unwaith. Rydyn ni’n addo peidio â bod yn grac- Mae er diogelwch a lles pawb.

Pan fu gollyngiad
Mae unrhyw ddamweiniau yn gyffredinol yn golygu y bydd yn rhaid cau’r pwll nofio am nifer o oriau, a gallai arwain at stopio eich sesiynau a chanslo’r rhai sy’n dilyn. Felly, ar wahân i’r holl resymau iechyd synhwyrol, bydd ein system cewynnau dwbl hefyd yn stopio codi cywilydd arnoch chi a’ch babi!

Delio â chewynnau wedi’u defnyddio
Mae’n hanfodol bwysig eich bod chi bob amser yn mynd â’ch holl gewynnau gyda chi, oni bai bod bin cewyn wedi’i farcio’n glir wedi’i ddarparu gan leoliad y pwll nofio rydych chi’n ei ddefnyddio.

Rydyn ni’n diolch i chi am gymryd yr amser i ddarllen ein polisi a dymunwn ni flynyddoedd hapus i chi a’ch plentyn yn nofio yn hapus gyda Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden Caerffili.